Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Edeyrn, (Price Pentraeth gynt, a pherson Llanfair, yn Mhwll Gwymbill, neu, Pwll Gwyn—gyll,) yr hwn oedd orŵyr i'r Archdiacon, tho' full unworthy of such an ancestor; but those poems were monstrously mangl'd and mis—spell'd. I suppose they might have been copied by old Price of Edern (or perhaps his father, Price of Celynog,) in his younger years, before he understood Welsh, (and indeed he never understood it well,) and kept for a family piece in memory of the learned progenitor. Nid hen ddyn dwl oedd yr Archdiacon, ac ystyried yr amser yr oedd yn byw ynddo; etto yr wyf yn cyfrif Wm. Cynwal yn well bardd, o ran naturiol anian ac athrylith, ond bod Emwnt yn rhagori mewn dysg. Nid oedd Cynwal druan (ysgolhaig bol clawdd) ond megis yn ymladd a'r dyrnau moelion yn erbyn tarian a llurig—

"A'r gwanna ddyn â gwain ddur,
A dyrr nerth a dwrn Arthur."

chwedl yr hen fardd gynt. E ddigwydd weithiau i natur ei hunan (heb gynnorthwy dysg) wneuthur rhyfeddodau; etto nid yw hynny ond damwain tra anghyffredin: ac er mai prydferthwch dawn Duw yw naturiol athrylith, ac mai perffeithrwydd natur yw dysg, etto dewisach a fyddai (genyf fi) feddu rhan gymhedrol o bob un o'r ddwy, na rhagori hyd yr eithaf yn yr un o'r ddwy yn unig, heb gyfran o'r llall. Mi glywais hen chwedl a ddywedir yn gyffredin ar Ddafydd ab Gwilym—

"Gwell yw Awen i ganu,
Na phen doeth ac na phin du."

Gwir yw am brydydd; ac felly y dywedai y Lladinwyr, "Poeta nascitur non fit;" hynny yw, Prydydd a enir, ond ni's gwneir mal pe dywedid, nid ellir prydydd o'r doethaf a'r dysgediccaf tan haul, oni bydd wrth natur yn dueddol i hynny, a chwedi ei gynnysgaeddu gan Dduw âg awenydd naturiol yn ei enedigaeth. Os bydd i ddyn synwyr cyffredin, a chyda hynny astudrwydd, parhad ac ewyllysgarwch, fe ellir o hono eglwyswr, cyfreithiwr, gwladwr, neu philosophydd; ond pe rhoech yr holl gyfferiau hynny ynghyd, a chant o'r fath, ni wnaech byth hanner prydydd. Nid oes a wna brydydd ond Duw a natur; ni cheisiaf amgen tyst ar hyn na M. T. Cicero; pwy ffraethach areithydd? pwy well a gwyliadwrusach gwladwr? pwy ragorach cyfreithiwr? pwy ddyfnach