Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddinbych heibio heb wybod i neb? Y rhent oreu yn Esgobawt Bangor. Dyma'r Aldramon yn d'wedyd ei bod yn ddigon o hyd yn wâg, a bod Mr. J. Ellis o Fangor wedi ei gwrthod hi. Mae hi yn 150 per annum medd o. Gwych a fasai gael gafael arni hi." Pa sut y disgwyliwch gael Odlau (meddwch) tra bo'ch i'm naca o Gywydd?" Wele, dyma Gywydd i chwi o ryw fath, ac os ysgrifenwch yma'n brysur, chwi a gewch Awdyl. Pa beth a fynnech gael? A'i tybaid y gyrr y gŵr o'r Gors rai ffrancod i mi? Dyma fi yn myn'd i ddechreu Cywydd y Castell Coch; e fydd hwnw'n barod cyn y Nadolig, os byddaf byw ac iach.

Iê, dywedyd y mae Gwalchmai, na welir neb yn debyg i Fadawg ab Meredydd yn y byd hwn, hyd oni ddel Cynan a Chadwaladr yn fyw drachefn, h.y. hyd ddydd brawd, and that (with regard to the qualities he commends him for) is, to all intents and purposes never. Pray give your opinion of what I say of Hywel ab Owen and his language.—Dyma fi yn ymroi i yrru hwn gyda'r post; rhowch chwithau'r gost ar gefn Glyw Prydain, os oes modd, y mae'n ddigon abl i dalu. Ai ê, prydyddiaeth esmwyth a chwennychai Mr. Ellis? As much as to say my numbers don't glide smoothly enough. Os ynteu y peth a all plentyn ei amgyffred sydd esmwyth, gwell i mi wneuthur ambell Ddyri, ond gan gofio, onid yw Llyfr y Vicar a'r Cerddlyfr yn ddigon helaeth yn eich plith? Etto ni ddeall plentyn deuddeg oed un penill o ddim hyd yn un o'r ddau. This is talking to no purpose, I never wrote any thing (designedly) for children, no, nor fools, nor old women, and while my brains are sound, never shall. Gwaed llosgwrn y gath! Ai nid oes gan fardd ddim i'w wneuthur ond clytio mân Ddyrïau duwiol i hoglanciau a llancesi i'w dysgu, i ysgafnhau baich yr Offeiriaid? A phe bai un gan ffoled a gwneuthur hynny, odid y ceid gan y llanciau tywod, a'r merched nyddu fod mor fwyn a chymmeryd y rheiny yn gyfnewid, yn lle eu hen ddyrïau anwylion a ddysgasent er's llawer blwyddyn, "A'i hela hi a'i thynu, a'i dyblu hi a'i dodi," &c., a "Hai lw lian faban fab, yr ydwy'n feichiog fawr ar fab," &c. Whatever I wrote was designed for men, and for men of sense and ingenuity, such as love their country and language, and can relish pithy and nervous Welsh. As for