Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

we do au, or the Greeks their αι; for it is certain they never joined the two vowels æ thus, but as we do in the same words in traed, gwaed, &c. If so what difference is between their Celta & the Κελται of the Greeks? Which (bating the mis— pronunciation of ll as I said above) comes near enough to our Gallau to fix and determine the Original of the Word— Myfi ydwyf, Yr eiddoch,

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 40.

At WILLIAM MORRIS.


LLUNDAIN, Mehefin 7, 1755.

Y CAREDICAF GYFAILL,

Y MAE'N gryn gywilydd gennyf na 'scrifenaswn atoch yn gynt; Wala hai (meddwch chwithau,) dyna esgus pob dyn diog. Ond yn mhell y b'wyf os oes gennyf rith dim i'w 'scrifenu weithion, ac oni bai ofn bod yn ddau eiriog, mi ddywedwn ei bod hi yn rhy fuan i 'scrifenu etto. Mi fum yn hir yn lluddedig ar ol fy maith ymdaith o'r Gogledd, ac nid oes etto ddim gwastadfod na threfn arnaf, ond yr wyf yn gobeithio na byddaf chwaith hir heb sefydlu mewn rhyw le, oblegid fod y Cymmrodorion i gyd yn gyffredinol, y ddau frawd yn enwedig, yn ymwrando ac yn ymofyn am le i mi. Wele, dyma fi wedi myned yn un o'r Cymmrodorion yn y cyfarfod diweddaf, ond ni welaf etto fawr obaith cael Eglwys Gymreig. Pobl wychion odidog, mi ro'f i chwi fy ngair, yw'r Cymmrodorion, dynion wyneb lawen, glan eu calonau oll. Mae'n debyg y gyr y Penllywydd Mynglwyd i chwi lyfr y Gesodedigaethau, &c., oni yrrodd eisus. Gwych o hardded yw arfau Llywelyn ab Gruffydd, llun Dewi Sant, a Derwydd, &c, sydd o flaen y llyfr, wedi ei dorri ar gopr yn gelfyddgar ddigon. Ni welwyd yn Nghymru erioed debyg i'r llyfr hwn. Y mae pawb yma yn rhwydd iachus,