Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 43.

At WILLIAM MORRIS.


NORTHOLT, Rhagfyr y 29, 1755.

YR ANWYL GYDWLADWR, A'M HEN GYFAILL GYNT,

YN wir y mae arnaf gryn gywilydd gyfaddef eich bod erioed wedi bod yn nifer y cyfeillion, gan ddihired a fu'm wrthych; mi a ewyllysiwn dynnu llen-gudd dros yr amser a aeth heibio, a thaeru mai dyma y llythyr cyntaf erioed a ysgrifennais attoch. Ond y gwir a fynn ei le; a minnau pia'r gwarth a'r gwaradwydd am fod mor esgeulus; a phe gwyddwn fod rhithyn o obaith am faddeuant, mi wnawn aneirif addunedau i fod yn fwy gofalus a diwyd i ysgrifennu o hyn rhagllaw. Beth meddwch? (canys ni fynaf yn hyn o beth un Pab ond chwychwi,) a ellid cael cymmod trwy ddwyn penyd? neu ynte a gyst myn'd hyn a hyn o flynyddoedd i'r purdan? Os penyd. a wna'r gwaith, wele ddigon eisoes, fod cyhyd heb glywed. oddiwrthych, a thra diddaned im' gynt eich epistolau. Tra bum yn Llundain, un achos arbennig na ysgrifennwn attoch ydoedd, fy mod yn gwybod yn hysbys, os byddai gennyf gymmaint ag Englyn newydd, y byddai yna, trwy ddwylaw fy nghyfaill John Owen, cyn y medrwn i a'm bath roi pin ar bapur; wele, dyna un darn o'm hesgus; ond pa beth a dâl ymgesgusodi? ond haws maddeuant er cyffes. Yr oedd hefyd, heblaw hyn oll, arnaf ofn o'r mwyaf oblegyd y Delyn Ledr; canys mewn brys a ffwdan o'r mwyaf y cychwynais o'r fangre gythreulig yn y Gogledd accw, a chan nad allwn gludo dim ar fy nghefn, nid oedd gennyf ond rhoi'r Delyn gyd â'r llyfrau eraill, a'u gorchymyn oll i law gwr a dybiwn yn bur ac yn onest i'w gyrru ar fy ol; gwir yw ni ysgrifennais ddim an danynt, hyd nad oeddwn ar ymadael o Lundain, ac yno mi gefais atteb, eu bod yn barod i ddyfod mewn wythnos neu bythefnos o amser; ond mae'r pymthegnos hynny wedi myned heibio er ys mis neu well; pa beth a wnaf ynte? nid oes gennyf ddim i'w wneuthur ond ysgrifennu etto yn ffyrnig atto ef i erchi arno yrru'r llyfrau. Os cyll y Delyn, bid sicr i mi golli ei gwerth ddengwaith o lyfrau o amryw ieithoedd, ond