peth o'm Gwaith i yn argraphedig, a gwaith y Llew gyda hwynt. Gwych a fyddai ei gweled. Do hefyd a gwaith Ieuan Fardd yn argraphedig. A ellid byth ei weled y tu yma i'r Mor? Ni chaf na lle nag amser i ddywedyd i chwi ddim o'm helyntion ar hyn o dro; pan weloch yn dda 'scrifennu, chwi gewch wybod y maint y fynoch. Yr unig beth sydd i'm i'w daer ddeisyf gennyf yw, rhoi imi lawn gyfrif pwy rai o'm Cydnabyddiaeth sy'n fyw, a pha le y maent, rhag i mi sgrifennu at bobl yn eu beddau. Ple mae'ch nai Sion Owain fwynwr Mae'r Parry o'r Mint? Mae'r Person Mr. Humphreys? Ai byw Tom Willms y Druggist o Lân y Bais? Os è, ai yna y mae fyth? Ai byw Huwcyn Williams, Person Aberffraw? Ai byw'ch Tad? a'm Chwaer Sian innau ym Mynydd Bodafon? Mi ges y newydd farw 'Mhrawd Owen Ynghroes Oswallt. Yr wyf i (i Dduw bo'r diolch) yn iach heinif, a'r wlad yn dygymmod a mi'n burion. Nid oes un o'm teulu Seisnig yn fyw, ond fy Mab Rhobert. Yr wyf yn briod a'm trydydd Wraig, a chennyf dri o blant a aned yma. Ond nawdd Duw a'i Saint rhag y trigolion, oddigerth y sawl o honynt sydd Saeson; ac nid da mohonynt hwythau oll. Annerchwch fy Nghyfaill Parri o'r Fint, a Pherson y Twr gwyn, a Sion Owen fwynwr, ie ac Andrew Jones, a phob wyneb Dŷn a'm hadwaeno. Duw gyda chwi oll. Mi fyddaf yn disgwyl Llythyr ymhen chwech mis. Mi wyf yr eiddoch &c.,
Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/148
Gwedd