Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erioed yn Llan Eilian, na nemmawr yn un lle arall ym Môn, oddigerth ychydig ynghylch y Cartref, a thua Dulas a Bodewryd a Phenmon, &c., lle'r oedd ceraint fy Mam yn byw. Er pan aethum i'r ysgol gyntaf, hynny oedd ynghylch Deg neu un ar ddeg oed; nid oeddwn arferol o fod Gartref ond yn unig yn y Gwyliau, ac felly nid allwn adwaen mo'r llawer. Mi a wn amcan pa le mae Tref Castell yn sefyll, er na's gwyddwn pwy a'i pioedd. Y tro cyntaf erioed yr aethum i'r Ysgol, diangc a wnaethym gyd â Bechgyn eraill, heb wybod i'm Tad a'm Mam: fy Nhad a fynnai fy nghuro, a'm mam ni's gadawai iddo; ba wedd bynnag trwy gynhwysiad fy Mam, yno y glynais, hyd oni ddysgais enill fy mywyd. A da iawn a fu imi; oblegid ynghylch yr amser yr oeddwn yn dechreu gallu ymdaro trosof fy hun, fe fu farw fy Mam, ac yno nid oedd ond croesaw oer gartref i'w ddisgwyl. I Dduw y bo'r diolch, mi welais ac a gefais lawer o adfyd, ac etto methu cefnu'r cwbl; ond gobeithio'r wyf weled o honof y darn gwaethaf o'm bywyd eisus heibio.—Da iawn a fydd gennyf glywed oddiwrthych, pan gaffo'ch gyfleusdra; a goreu po cyntaf. Bid siccr i chwi, os gwelwch yn dda, gael rhyw Gywydd yn y nesaf, ac ymhob un o hyn allan. Chwi a gawsech Gywydd y Farn yn hwn oni buasai fy mod yn meddwl mai gwell i chwi ei gael yn Argraphedig. Os nid ellwch yn hawdd ddidolli'ch Llythyr â Ffrencyn, gyrrwch ef ymlaen heb yr un; ni wna Grotten na'm dwyn na'm gadael.—If Mr Hugh Davies calls of me in his way to Anglesey, I shall be glad to see him; I live four Miles short of Salop, within half a Mile of the Golden Horse Shoe, on Watlingstreet road; which is about 3 quarters of a Mile short of Tern Bridge Turnpike as he goes from Watlingstreet to Atcham, and so to Salop. I have time to write no more but that I am (with abundance of thanks for this favour) Your most obliged humble servant,

Gronwy Ddu, alias Offeiriad
alias Y Bardd Bach o Fon.

N.B.—Llwybreiddiwch eich Llythyr fal o'r blaen, ond yn unig cofiwch ei orchymmyn i Gŵd Shiffnal (Shiffnal Bag) ac mi a'i caf ddauddydd neu dri yn gynt, oblegid heb hyny fe â heibio i'm trwyn i i'r Mwythig, ac yno bydd hyd ddychweliad y Post.