Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weiniodd i mi adnabod mo Ieuan Fardd o Golege Merton,[1] ond mi a glywais gryn glod iddo, a thrwy gynhorthwy Llywelyn Ddu, mi welais rywfaint o'i Orchestwaith a diddadl yw na chafodd mo'r glod heb ei haeddu. Er ei fod yn iau nå mi, o ran oedran, eto mae'n hŷn Prydydd o lawer, oblegid ryw bryd Yngwyliau'r Nadolig diweddaf y dechreuais i, ac oni buasai'ch Brawd Llywelyn, & yrrodd i mi ryw dammaid praw, o waith Ieuan, ac a ddywaid yn haêrllug y medrwn innau brydyddu, ni feddyliaswn i erioed am y fath beth. Tuag at am yr hyn yr y'ch chwi yn ei ddywedyd, sef, mai Gronwy Ddu o Fôn yw Pen Bardd Cymru oll, mae gennyf ddiolch o'r mwyaf i chwi am eich tŷb dda o honof; ond gwir ydyw'r gwir, yn ydych yn camgymeryd. Llewelyn Ddu yw Pen Bardd Cymru oll, ac ni weddai'r Enw a'r Titl hwnnw i neb arall sy'n fyw heddyw. Nid yw Ieuan a minnau ond ei Ddysgyblion ef, ac o'r Dysgyblion pwy a yf ei ddysg orau, ond hwnnw fo'n wastadol tan law ei Athraw? E fu hynod iawn yr ymdrech rhwng Gŵr o Geredigion a Gŵr o Fôn, er ys gwell na thrychan Mlynedd aeth heibio, sef, D. ap Gwilym, a Gryffydd Gryg; ac am yr wyf fi'n ei ddyall, Môn a gollodd a Gheredigion aeth a'r maes. Felly ninnau:—pa beth yw Gronwy Ddu wrth Ieuan Fardd o Geredigion? eto gwych a fyddai i Fôn gael y llaw uchaf unwaith, i dalu galanas yr Hên Ryffydd Grûg? Gwaetha peth yw, nid wyf fi'u cael mo'r amser, na heddwch, na hamdden gan yr hen Ysgol front yma, a drygnad y Cywion Saeson, fy Nysgyblion, yn suo 'n ddidor ddidawl yn fy Nghlustiau, yn ddigon er fy syfrdannu a'm byddaru. Chwi welwch fy mod yn dechreu dyfod i ysgrifennu Llythyr Cymraeg yn o dwtnais. Gadewch gael clywed oddiwrthych cyntaf byth ag y caffoch hamdden, ac os oes genych ryw Lyfrau Hebraeg a dim daioni ynddynt, neu rai Arabaeg, a alloch yn bur hawdd eu hepcor, chwi ellwch eu llwybreiddio ataf fi—i'w gadael yn yr "Horse Shoe near Tern Bridge," a'u gyrru gyda'r Waggon sy'n perthyn i'r Mwythig. Ond na yrrwch i mi ddim a fo dreulfawr, ag na alloch yn bur hawdd eu hepcor. Os gyrrwch Lyfr yn y Byd a dalo ei yrru, myfi a ddygaf y gost, ac a'i gyrraf yn ol i chwi drachefn (Carriage paid). Bellach rhaid cau hyn o Lythyr oblegid ni erys Mall-

  1. Ychwanega'r llawysgrif yma rhwng cromfachau—"viz., Revd Evan Evans.