Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

service. But if it be for want of notes, &c., surely, he that could make the Cywydd, can also write notes on it; and if the noise about it is so far gone abroad as to raise a general expectation, I don't know but it may be advisable to print it,.. and even requisite in some measure. Now your crown (if you can find in your heart to part with it upon so trifling an occasion) and mine, and another of Mr. Hugh Williams, will compass it, and we may have it and some two more printed. here, under my own eyes, at Salop, and afterwards equally divided betwixt us, to be disposed of of at pleasure. As to our national indolence and contempt of our own language, we can but take one view of the state of letters. 'Tis a melan- choly consideration; so full of discouragement, that I choose. to say no more of it.

I've received the repeated favours of two letters from your brother Richard, and have in answer to the second, at his desire, sent him Cywydd y Farn, and expect next. post to hear from him again. Da iawn a fyddai genyf ddyfod i fyw ym Môn, os gallwn fyw yn ddiwall ddiangen: ac nid wyf yn ammeu na fyddai Llangristiolus yn ddigon i mi fagu fy mhlant pe'i cawn. Ni rwgnach ffrencyn ar ddwyn llen gyfan o bapur, mwy na phed fai onid hanner hynny, ac am hynny mi a yrrais i chwi ar y tu arall i'r llen ryw fath o gywydd, nid y goreu, ond y diweddaf a wnaethum. Mi a'i gyrrais i Geredigion. yn y llythyr diweddaf; ond ni chlywais etto pa un ai da ai drwg, ai canolig ydyw-dyma fo i chwi fal y mae gennyf finnau. Llawer iawn o drafferth a phenbleth a roes Duw i'm rhan i yn y byd brwnt yma; ac onidê mi fuaswn debyg i yrru i chwi ryw fath o'r Gywydd Coffadwriaeth am yr hen wraig elusengar o Bentre Eirianell; ond nis gallwn y tro yms.

Mae'r Ysgol ddiflas yn agos a'm nychu fi. Pa beth a all fod yn fwy diflas a dihoenllyd i ddyn sydd yn myfyrio, na gwastadol gwrnad a rhincyn cywion Saeson? prin caf odfa i fwytta fy mwyd ganddynt-a bychan a fyddai fod cell haiarn i bob un o honynt o'r neilldu, gan yr ymdderru a'r ymgeintach y byddant; ac fel tynnu afangc o lyn yw