Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 8.

At RICHARD MORRIS.


DONNINGTON, Rhagfyr 18, 1752.

Y CAREDIG GYDWLADWR,

Mi a dderbyniais eich Llythyr er's ennyd fawr o amser, a chan diolch i chwi am y Llyfrau a yrrasoch imi, er na welais monynt etto. Fe ddywaid Mr Llywelyn Ddû i mi yn ei Lythyr, ei fod wedi eu derbyn hwy, ac mae'n debyg y gyrr hwynt yma gyntaf ag y caffo gyfleusdra. Mi gychwynais. 'sgrifennu attoch er ys yn agos i bymthengnos, ac yn hynny dyma Lythyr o Fôn, ac un arall o Allt Fadawg yn dyfod i'm dwylaw; ac yno gorfu arnaf ail fwrw fy Llythyr attoch. chwi, rhag dywedyd celwydd yn ei gynhwysiad: oblegid meddwl yr oeddwn fod y Gŵr o Allt Fadawg gydâ chwi yn Llundain yna, fal y dywedasai y byddai yn ei Lythyr o'r blaen, ond weithion mi glywaf ei fod gartref. Dymunaf arnoch nad eloch i'r gost i brynnu i mi ddim ychwaneg o Lyfrau o herwydd nis gwn i pe'm blingech, pa fodd i wneud i chwi Arian iawn am a yrrasoch. Odid y daw fyth ar fy llaw i dalu'r pwyth i chwi am eich caredigrwydd, ac onid e, mi a'i gwnawn yn ewyllysgar. Mi glywais fyned o Dduw a'ch Mam; a saeth i'm calon oedd y Newydd. Da iawn i laweroedd a fu hi yn ei hamser, ac ym mysg eraill i minnau hefyd pan oeddwn yn Blentyn. Hoff iawn a fyddai genyf redeg ar brydnhawn Sadwrn o Ysgol Llan-Allgo i Bentre Eirianell, ac yno y byddwn sicer o gael fy llawn hwde ar fwytta Brechdanau o Fêl, Triagl, neu Ymenyn, neu'r un a fynnwn o'r tri rhyw; papur i wneud fy Nhasg ac amryw neges arall, a cheiniog yn fy Mhocced i fyned adref, ac anferth siars, wrth ymadael, i ddysgu fy Llyfr yn dda; a phwy bynnag a fyddai yn y byd, y ceid ryw ddydd fy ngweled yn glamp o Berson. Boed gwir a fo'i gair; ac nid yw'n anhebyg, gan weled o Dduw'n dda ffynnu ganddi adael Meibion o'r un Meddwl â hi ei hun ar ei hol. Duw fo da wrthi, da fu hi i mi. Da'n fyw, da'n farw, tra bo ddafn o waed yngwythi ei Meibion. Daccw i chwi y tu draw i'r