Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

till I am fixed at Walton. My compliments to Mr. Ellis, with abundance of thanks for 8. D. Rhys. My neighbouring ministers have promised to officiate for me here till a successor be provided, so my present patron can't think himself ill—used. The worst that I have to fear from this affair is, that I shall have some difficulty in removing my family. As soon as I am fixed you shall hear from me. I've no leisure to add any more, but that I am, Dear Sir, your most obliged humble servant,

GORONWY OWEN.

O.S.—Gwae fi na wyddwn pa un ai bod Llewelyn yn Nghallt Fadog ai ynte yn Llundain; yr wyf ar dorri fy nghalon o eisiau clywed oddiwrtho fo.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 13.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Ebrill 24, 1753.

FY ANWYL GAREDIG GYDWLADWR,

DYMA fi yn Walton o'r diwedd, ar ol hir ludded yn fy nhaith. Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, ynghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth; a'r Person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon. Ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen y gwasanaeth a phregethu fy hun y bore, a darllen gosper yn y prydnawn, ac yntau a bregethodd. Y mae y gwr yn edrych yn wr o'r mwynaf; ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymmeryd ef yn ei ffordd. Mae y gwas a'r forwyn (yr hyn yw yr holl deulu a fedd) yn dywedyd mai cidwm cyrrith, anynad drwg—anwydus aruthr yw: ond pa beth yw hynny i mi? Bid rhyngddynt hwy ac yntau am ei gampau teuluaidd; nid oes i mi ond gwneyd fy nyledswydd, ac yno draen yn ei gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hy am dano, na chlywais erioed haiach well pregethwr, na mwynach ymgomiwr. Climmach o ddyn amrosgo ydyw— garan anfaintunaidd—afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled