Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fleetwood's, Bookseller, near the Exchange, Liverpool. Mi a welais yn Liverpool yma heddyw rai llongwyr o Gymru, ie, o Gybi, y rhai a adwaenwn gynt, er na's adwaenent hwy mohono fi, ac na's tynnais gydnabyddiaeth yn y byd arnynt, amgen na dywedyd mai Cymro oeddwn o Groesoswallt (lle na's adwaenent hwy,) ac felly yr wyf yn dyall fod yn hawdd cael y peth a fynnir o Fôn yma. Ond drwg iawn gennyf glywed fod Mr. Ellis anwyl yn glaf. Er mwyn Duw rhowch fy ngwasanaeth atto, a chann ddiolch am y Dr. Davies.

Nid oes gennyf ddim ychwaneg i'w ddywedyd yn awr, ond bod y genawes gan yr awen wedi naghau dyfod un cam gyda myfi y tu yma i'r Wrekin (the Shropshire Parnassus,) and that as far as I can see, there is not one hill in Lancashire that will feed a muse; however we will try whether a muse (like a Welsh horse) may not grow fat in a plain level country. If that experiment will not do, I know not what will. I beg to hear from you by the return of the Post, and let me know if Mr. Ellis is any thing better; his death, I am sure, would be an irretrievable loss, not only to Holyhead and Anglesea, but to all Wales. Don't fail to let me hear from you as soon as possible, and how my dear poetry tutor, Llewelyn, does. I have no time to write more,. but that I am, Dear Sir, Your most obliged humble servant,

GRONWY DDU O FON.

Calanmai Newydd yn Nhref Lerpwl.