Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun, lle cawn botio yn rhad, ac ysmocio cetyn lawlaw, ac yno hwre bawb a'i chwedl digrif, a dwndro wrth ein pwys oni flinom. Dyn garw ydoedd y Curad diweddaf! Nid âi un amser ond prin i olwg yr hên gorph, ac os âi ni ddywedai bwmp onda ofynid iddo, ac fyth ar y drain am ddiane i ffordd, oblegyd hoffach oedd ganddo gwmni rhyw garpiau budron o gryddionach, cigyddion, &c., ac yn nghwmni y cyfryw ffardial yr arhosai o Sul i Sul yn cnocio'r gareg, a chwareu pitch and toss, ysgwyd yr het, meddwi, chwareu cardiau, a chwffio, rhedeg yn noeth lymmyn hyd ystrydoedd Le'rpwl i ymbaffio. A'r cigyddion, a'r rheiny a'u cleavers, a'u marrow bones yn soundio alarm o'i ddeutu, myned i'r Eglwys ar fore Sul yn chwilgorn feddw, &c. Unwaith y gwnaeth gast y ci (fel y dywedant,) fe gymmerth het un o'r gwŷr penna'r plwy ac a bisodd ynddi, ac yno fe'i llanwodd â marwor tanllyd, ac a'i taflodd yn nannedd ei pherchenog; fe fu agos i hynny a gwneud i mi y mawr—ddrwg, oblegyd y gwr hwnnw a gawsai'r anmharch gan y curate a wnaeth ei achwyn ar holl wyrda y plwyf, ac a gafodd ganddynt gyttuno na chai curate byth rhag llaw mo'r Ysgol, na dim arall arall a allont hwy eu llestair. This was a mad resolution of his (for theirs[1]) for a man is not accountable or answerable for the miscarriage and folly of another; but however, it cost me a great deal of trouble and arguing to bring them to a better temper, which by a little art and winning behaviour, I've at last effected. Yr ydwyf wedi cael myned yn ben Meistr i'r Ysgol, ond nad rhaid i mi wneuthur dim yn y byd oni ddigwydd i rai ddyfod i ddysgu Lladin. Y mae gennyf un arall danaf i ddysgu Saesneg, i'r hwn yr ydwyf yn rhoddi wyth bunt yn y flwyddyn am ei boen. Ac felly y cwbl wyf fi yn ei gael ydyw yn nghylch chwe' phunt neu saith yn y flwyddyn heblaw'r Ty'n y fynwent. Ac y mae hynny yn ddigon am wnenthur dim.—Y mae'r fargen wedi ei chloi, canys y mae'r articlau cytundeb wedi eu tynu a'u seinio rhyngof fi ac Edward Stockley (fy Usher a'm Clochydd) i'r hwn y rhoesai'r plwyfolion yr Ysgol o'r blaen. Felly, fy holl gyflog i sydd yn nghylch £44 yn y flwyddyn rhwng y ty a'r cwbl. Wel dyna i chwi fy hanes i,

hanes go dda ydyw i Duw a chwithau bo'r diolch.

  1. Yn arg. Llundain, "of theirs; " yn arg. Llanrwst, "of (his fortheirs). Tebyg felly mai "of his " ysgrifenwyd gan Oronwy.