Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 17

At RICHARD MORRIS.


WALTON, Awst 10, 1753.

DEAR SIR,

MAE cyhyd amser er pan ysgrifennais attoch, na's gwn yr awrhon pa sutt i ddechreu, na pha afael a gymmeraf i esgusodi fy annibendod. Trafferthus oeddwn yn ceisio cynnull ynghyd ryw faint o ddodrefnach at gadw Tŷ. Ffei! Ffei! Esgus gwag yw hwn, ni thâl ddraen. Wele gadewch iddo. Llwyr ddigalon oeddwn o eisieu fy Llyfrau, ac ni fedrwn ystwytho at ddim o hiraeth am danynt. Ni thyccia hynny 'chwaith. 'Rwyf yn ofni y gorfydd cyfaddef y caswir a dywedyd, Rhyw huppynt o ddiogi a syrthni a ddaeth trosof, a phwy a allai wrtho?—Pa ddelw bynnag ni's gwn pa'r un wiriaf o'r tri esgus: cymmerwch eich dewis o honynt, neu'r cwbl ynghyd os mynnwch, am y rhoddwch i mi faddeuant. Bellach am eich caredig Lythyr diweddaf. Ie fi'n Esgob Bangor! Llwyr y darfu iw'ch gamgymeryd Llyfr y Daroganau. A ydych yn disgwyl weled yno Gymro'n y byd yn Esgob? Cynt y rhown goel ar y Brut sy'n addaw dyfodiad Owain Lawgoch, a'i orfodawglu, nag y disgwyliwn. weled byth Gymro uwch bawd na sawdl mewn unrhyw ragor barch gwledig nag Eglwysig. Am danaf fy hun, mi fum Wyth mlynedd bellach yn ymddygnu am gael rhyw fath o Offeiriadaeth Ynghymru, ac nis cefais. Ond yr wyf weithion wedi rhoi fy Nghalon mewn esmwythdra; per cynnygid i mi le ym Môn heddyw, ni fynnwn mo honaw, oni byddai'n werth 50£ o leiaf, h. y., oni byddai ddegpunt gwell na hwn sy gennyf. Mae gennyf yma lawn 40£ a Thy, a gwr mwyn, boneddigaidd yn Batron imi. Gwaethaf peth yw, yr wyf yn wastadol ar fy llawn hwde, rhwng yr Eglwys a'r Ysgol; a drud anferthol yw pob ymborth, o achos ein bod mor agos i Dref Lerpwl. Ond ofer disgwyl pob peth wrth ein bodd yn y byd yma.—I am charmed with the account you give me of your Society of Antient Britons, and hope it may flourish for the honour and preservation. of our Language. If your Body of Laws are printed I