Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 18.

At MR WILLIAM MORRIS.


WALTON, Awst 12, 1753.

DEAR SIR,

DYMA ddau lythyr o'r eiddoch wedi dyfod i'm dwylaw yn llwyddiannus; a rhyfedd genyf pa fodd y tycciodd fy llythyr cyntaf innau, yr hwn a yrrais tu ag yna er ys chwech wythnos neu well. Un peth sydd dda, nid oedd ynddo ddim y bai waeth pwy a'i gwelai: cryn dipyn o glod i'r Aldramon ac i'm Patron, Mr. Brooke, oedd y rhan fwyaf o hono, a hynny yn Gymraeg loyw lân, chwedl Sion Lodwig.—Gwr mwyn, hael, bonheddig, yw'r hen Lew i'r sawl a fedro dynnu'r bara drwy'r drybedd iddo. Pa beth dybygech a gefais ganddo eisoes, mewn un chwarter blwyddyn? dim llai na chwech o gadeiriau tacclus, ac un easy chair i'w groesawu ef ei hun pan ddel i'm hymweled; ac yn nghylch ugain o bictiwrau mewn fframes duon.

My BOB is a very great favourite of his, and greatly admired for being such a dapper little fellow in breeches. The Vicar can never see him without smiling, and said one day, that if himself could be cut as they do corks, he would make at least a gross of Bobs. And being willing in some sort to try the experiment, he gave him a very good waistcoat of what they call silk camblet, to make him a suit of clothes, which it really did, and somewhat above. And the other day, when I had a couple of neighbouring Clergymen come to see me, he sent me a bottle of rum, and was pleased to favour me with his company, tho' he very seldom strays abroad to any friend's house. Whenever he goes to visit a friend (which he has done three or four times this summer,) he always desires my company and lends me a horse. Campau yw y rhai'n nad oes mon'ynt yn perthyn i bob Patron.

Beth, mor galetted a chigydded oedd yr Ysgottyn brwnt hwnnw gan Ddouglas? Mae'r gwalch hwnnw yn cynnyg yn awr 30ain punt, a'r tŷ, a'r ardd, &c. yn Donnington, ac er hynny yn methu cael Curad: byth na chaffo! pe rhoisai hynny i mi, nid aethwn led fy nhroed oddiyno, Amheuthyn iawn i mi y