Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 19.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, September 5, 1753.

DEAR SIR,

YOURS of the 17th (or rather 19th) ult. I received. yesterday. I am exceedingly obliged to you for your care in acquainting Mr. L. Morris with the Δεαθ of περσον[1] B——, tho I am almost sure that all is to no purpose. Indeed I was the other day almost persuaded to believe that there might be something in it, but since you mentioned to me the D. of B——, I am quite easy about it; what alarmed me into such false hopes at first was as follows:—Wythnos i heddyw fe yrrodd yr Aldramon air attaf i ddyfod i'r dref, fod gwr bonheddig o Gymru yn deisyf fy ngweled. Yr oedd hi ynghylch tri o'r gloch prydnawn pan gefais y gennad, felly i'r dref yr aethum, ond ni's medrwn gael gafael ar na'r Aldramon na neb arall; ond o'r diwedd mi glywn eu bod yn dwrdio dyfod i Walton; yna mi a gymmerais wib adref yn fy ol, rhag digwydd iddynt fyned yn fy ngwrthgefn; er hynny ni welais neb tan ddydd Gwener y boreu, pan ddaeth Mr. Vaughan o Gors-y-Gedol yn lanaf gwr i Walton. Ar ol ymgomio ynghylch awr ar amryw bethau, mi a'i clywn yn dywedyd, I wish you joy, &c. Chwi ellwch wybod am ba beth, er na's gwyddwn i ddim y pryd hynny. Mi ofynais iddo, ac yntau a ddywedodd, glywed o hono yn y Duwmaris (cyn marw y P——n O——n, oblegyd ni chlywsai efe mo'i farw etto) fod un wedi myned i ofyn y lle dros Eglwyswr o Gymru, a chaffael o hono atteb, fod y lle wedi ei addaw i Iarll L——n; and then to be sure who must have it but • • •? Newydd da oedd hwn, ac o ben da hefyd, chwedl y bobl; ond erbyn y ceffir y carn, nid hwyrach na thal mo'r draen crin. Fe fu yn hir cyn medru cofio ei garn; ond o'r diwedd fe gofiodd, mae Andro Edds, fy hen feistr gynt, sef yn awr Person Llangefni, a ddywedasai wrtho. Andro ei hun sydd ag arno ddialedd o eisiau y lle, yn lle Llangefni, a'i frawd yn nghyfraith Richard Edds, Mr. in Chan——ry, a aethai i'w ofyn, ac a gawsai ei naccau.

  1. Trawslythrennu'r geiriau Death (of) person i'r wyddor Roeg