Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 21.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, December 18, 1753.

GAREDICAF SYR,

LLYMA'CH llythyr o'r ugeinfed o Dachwedd wedi cyrraedd Walton. Y mae hi, yn wir, yn gryn ennyd er pan yrrais attoch ddiweddaf, ond nid cyhyd ag yr ych chwi yn yn ei haeru, mi a'i profaf. Ni welais i olwg etto ar "Sion Dafydd Rhys," ac felly nid gwiw bwrw'r bai ar y truan hwnw am fy llestair i ysgrifenu. Nage. Nage. Prysur iawn a fum yn croesawu dieithriaid. Fe aeth y wraig Elin yn ddwy Elin o fewn y pum wythnos yma; a gwae a gaffo eneth, meddaf fi. Ni fu yma ddim gwastadfyd ar ddim er pan. welwyd eu hwyneb hi. Codi ddengwaith yn y nos, a dihuno'r cymydogion o'u gorphwysfa i'w hedrych, disgwyl iddi drengu bob pen awr, ac wylofain a nadu o'i phlegid, y fu'r gwaith penaf yma, er pan anwyd hi, hyd o fewn yr wythnos neu naw diwrnod, a llawer dychryn, ac oer galon, o'i hachos hi, ddydd a nos. Mi a'i bedyddais hi fy hun y noswaith y ganwyd hi; ac yr wyf yn gobeithio bellach ei bod, gyda. Duw, wedi gorchfygu y Convulsion Fits, ac y deil i fyned. i'r Eglwys i gael bedydd public; yr hyn a gaiff, os bydd byw, Dyddgwyl Domas; oblegid ni chair dim bedyddio yma ond naill ai ar y Sul neu Wyl. Ac y mae'r Vicar yn addo o hono ei hun, ei bedyddio a chymmeryd rhan o'm ciniaw, a rhoi imi alwyn o hen Rum i fod yn llawen gyda'r Tad Bedydd ac ynteu. Dyna hen wr gwiw!

Y mae "Cywydd y Farn," a'r nodau goreu a fedrwn wneuthur, wedi myned i Allt Fadawg er Dydd Mercher diweddaf, i gael barn Llewelyn arnaw, ac oddi yno yn union i Lundain. Ac os bydd y nodau hyny yn boddio, mi arlwyaf "Fonedd yr Awen" â'r un fath saig. Mi yrrais hefyd yr un pryd "Briodasgerdd" i'ch nith, Mrs. Elin Morris, i Allt Fadawg, yr hon gerdd a yrraswn i chwithau hefyd oni bai fod yr amser yn rhy brin weithion. Chwi a'i cewch, ysgatfydd, ryw dro arall, pan gaffwyf wybod a dâl ei dangos ai peidiaw.