Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwychwi etto. Yn rhodd, a fyddwch cyn fwyned yn y nesaf a gadael i mi wybod, pa newydd annghysurus a glywsoch o Gaer Nerpwl; oblegid ni chlywais i ddim rhyfedd sydd nes atti. Gwir yw nis bum yno er ys ennyd. Ond odid i ddim a dalo i son am dano ddigwydd yno na chlywyf mewn amser. Ac am eich gweddi" Duw o'i drugaredd a ystyrio wrth ein gwendidau," yr wyf yn dywedyd "Amen" o ewyllys fy nghalon, er nas gwn ar ba achos yr ystwythwyd y weddi.

Give my compliments to Mr. Ellis, if he is come home; God send him his health for the good of his charge! But I am afraid this going so often to seek it in Ireland bodes no good.

Annerchwch bawb a ofyno am danaf; ac mae yn debyg nad anhawdd. Duw gyda chwi, a chan diolch am bob

cymmwynas.

Wyf eich ufuddaf, wirddiolchgar a rhwymedig Wasanaethwr,

GRONWY OWEN.

P.S.—Llyma Wyddel wedi myned i Hirgaer i garchar, am briodi dwy wraig o fewn llai na dwy filldir at eu gilydd. Mae'n debyg y caiff ymystyn; ac ni haeddai amgen, am fod mor ryfygus a chynyg boddio dwy, lle mae digonedd o rai eraill yn methu boddloni un. Byddwch wych etto. Duw gyda chwi a'r eiddoch. Gyrrwch lythyr gyda'r post nesaf, da chwithau.