Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.


GYDA'R amcan o ddwyn rhyddiaith awdwr a gydnabyddir yn gyffredinol yn mysg yr ysgrifenwyr Cymraeg goreu, cyhoeddir y Llythyrau hyn am bris a'u rhydd yn nghyrhaedd y sawl allant eu mwynhau. Cymerwyd 19 o'r Llythyrau o Ysgriflyfr, hyned ag amser Goronwy, a'r llawysgrif yn ddigon tebyg i'w waith ef. Efallai, ond nid ydym yn sicrhau, mai yn y llyfr hwn y cadwai gopi o'i lythyrau; ac o gydmaru y rhai sydd yma â'r argraffiadau blaenorol ohonynt, nid yw'r gwahaniaeth yn y darlleniad ond a allesid ddisgwyl pan fo dyn yn ad—ysgrifenu ei waith. Barna y Proff. J. M. JONES fod y darlleniad yn yr Ysgriflyfr yn debycach i waith Goronwy nag fel yr oedd yr un Llythyrau genym o'r blaen. Y Llythyrau a ganlyn a gymerwyd o'r Ysgriflyfr:—4, 5, 8, 9, 15, 17, 20, 22, 24, 25, 29, 30, 35, 36, 39, 42, 44, 45, 49. Daeth yr Ysgriflyfr crybwylledig i feddiant cyhoeddwr y llyfr hwn yn yr arwerthiant a fu ar Lyfrgell y diweddar Canon Wynne Edwards, ficer Llanrhaiadr—yn—Cimmeirch.

LERPWL, Mehefin, 1895.