Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 22.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Ionawr yr ail ddydd, 1754.

ANWYL SYR,

MI addewais, yn y diweddaf, ysgrifennu attoch eilchwyl gyntaf ag y gallwn ar ol y Nadolig; ac yn awr dyma fi'n cywiro. Mae'n debyg gennyf dderbyn ohonoch Gywydd y Farn cyn hyn, ac nid wyf yn ammau na byddwch heno yn ei ddarllain ar osteg i'r Gymdeithas; a llwyr y dymunaswn fod hyn o Lythyr hefyd yn eich dwylaw 'run modd; on'd nid oedd modd i hynny mor bod, oblegid fy mod yn rhy brysur trwy'r Gwyliau, heb neb i'm cynhorthwyo mewn un darn o ddyledswydd y Plwyf mawr yma. Dyma fy hên Gyfaill anwylaf Mr. Huw Williams (yn awr) Periglor Aberffraw ym Môn, wedi gyrru imi Ramadeg Sion Rydderch i'm hyfforddio yn yr hên Gelfyddyd. Nid yw'r Grammadeg hwnw (e ŵyr Daw) ond un o'r fath waelaf; etto y mae'n well na bod heb yr un, canys y mae ynddo Engraphau o'r pedwar mesur ar hugain; ac y mae hynny yn fwy nag a welswn i erioed o'r blaen. Disgwyl yr oeddwn weled rhyw odidog Ragoriaeth o Gywreindeb orchestol rhwng gwaith y Beirdd o'r oesoedd diweddaraf (sef D. ap Gwilym ac eraill) a gwaith trwsgl yr Hên Feirdd gynt yn amser Taliesin, Llywarch Hên, Cynddelw, a'r cyffelyb; ond i'm mawr syndod, nid oedd hynny ond sommedigaeth.—I find that all the old Metres (despised & antiquated as they are) were really what all compositions of that nature should be, viz Lyrick verses, adapted to the Tunes & Musick then in use. Of this sort were the several kinds of Englynion, Cywyddau, Odlau, Gwawdodyn, Toddaid, Trybedd y Myneich, & Clogyrnach, &c which to any one person of understanding & genius that way inclined, will appear to have in their composition the authentick Stamp of genuine Lyrick Poetry, and of true primitive Antiquity. As to the rest, I mean Gorchest y Beirdd, Huppynt Hir a Byrr, and the newest (falsely thought the most ingenious & accurate) kind of all the other Metres; I look upon them to be rather depravations than improvements in our Poetry, being really