Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XIV.

Yr oedd Walter M'c Intosh yn awr yn ymwelydd cyson â thŷ Mr. Powel.

Nid da iawn yr hoffai yr hen foneddwr ef—yr oedd yn hen ŵr call, craffus, ac ofnai ddyben yr ymwelydd. Mrs. Powel a'i derbyniai'n wastad gyda'r sirioldeb mwyaf. Llewelyn hefyd, oedd yn falch iawn o'i weled. Ond parâai Gwen i goleddu ei hen ofnad am dano.

Nid oedd Walter wedi gwneyd cais teg at ffurfio carwriaeth â Gwen. Ond dyna a oedd ei ddyben, a pha beth bynag a feddyliai ef am dano, ni adawai yr un gareg heb ei throi, tuag at gael ei fwriad i ben. Hysbysodd ef Mr. a Mrs. Powel mai ei fwriad oedd gwneyd Gwen Parri'n wraig iddo 'i hun, gyda 'u cydsyniad hwy.

Yr oedd Walter yn awr yn dair-ar-ugain oed, ond yn ymddangos ddwyflwydd, beth bynag, hynach. Ymwisgai yn y dull mwyaf chwaethus, ac actiai'r gŵr boneddig yn berffaith ddigoll.

Ni siaradai lawn cymaint ag yn ei ddyddiau boreuaf; ond siaradai yn awr lawn ddigon i osod argraff foddhaol ar bwy bynag fyddai yn ei gwmpeini. Ond yr oedd yr unrhyw edrychiad ganddo o hyd rhywbeth annesgrifiadwy tua chonglau ei lygaid, fel yn bradychu tuedd ddichellgar a chyfrwysgall. Po fwyaf yr edrychai Gwen ar ei wyneb tywyll, gyda 'i wefus aflonydd a'i lygad gochelgar, treiddgar, mwyaf oedd ei hanymddiried ynddo.

Ymddangosai Mrs. Powel yn falch iawn fod Mr. M'c Intosh yn talu'r fath sylw i'w geneth—canys nid edrychai ar Gwen ond fel ar ei geneth ei hun. Ystyriai yn anrhydedd fod y fath foneddwr yn cynyg ei hun yn ddarpar ŵr iddi; ac addawai iddi ei hun bleser mawr eu gweled yn cael eu huno mewn cwlwm priodasol.

Nid oedd Gwen eto ond deunaw oed, ac yr oedd mor ddiniwed ac angelaidd yn ei ffyrdd syml a'i hedrychiad unplyg, nes y gallesid ei hystyried, braidd, fel rhosyn gwyn ieuanc, yn tyfu ar dir cysegredig, rhy sanctaidd, a pheraroglaidd i gael ei dori a'i wisgo yn nhwll botwm yr un dyn. Ond eto, yr oedd ei mam newydd yn ymlawenhau yn fawr yn y gobaith o gael rhoi'r gorchudd priodasol gwyn ar ei phen prydferth, ar yr achlysur o'i hymuniad â Walter M'c Intosh. Pa bryd bynag y soniai Mrs. Powel rywbeth wrth Gwen yn nghylch y garwriaeth, edrychai'r eneth mor