Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mi ddweyd yn awr na pheidio y mae fy ewythr wedi marw, ac wedi gadael ei holl gyfoeth i mi. Ond beth fyddai aur nac arian y byd i mi heb fy Ngwen? Pentwr o faw!"

"Wel, Walter M'c Intosh," ychwanegai'r eneth, "yr wyf yn dra diolchgar i chwi am goleddu'r fath opiniwn da am danaf fi, er nad wyf yn ei haeddu. Ond rhaid i mi siarad fy meddwl yn blaen, i rwystro pob camddealltwriaeth mewn amser i ddod—fedraf fi byth moch caru'n fwy nag fel cyfaill. Bydd yn dda genyf bob amser gael eich cwmpeini, a bydd yn dda gan Llewelyn hefyd ar delerau cyfeillgarol—dim pellach."

"Cyfaill! meddai Walter" gwyddoch o'r goreu na's gallaf foddloni i wisgo titl mor glaear—rhaid i mi fod yn fwy neu'n llai na chyfaill! Rhaid i mi gael edrych ar Gwen fel fy Ngwen, neu ni chaiff y byd mo fy mhresenoldeb i!"

Ar hyn daeth Mr. Powel i fewn, a rhoddodd ataliad ar yr ymddiddan. Ond gallodd Walter sibrwd yn nghlust Gwen,

"Cofiwch nad wyf yn meddwl rhoi'r goreu i chwi ar hyn o dreial."

Arosodd Walter i dê'r diwrnod hwnw. Wedi gorphen y pryd bwyd, gofynodd Walter i Lewelyn ddyfod i'w ddanfon ef ychydig o'r ffordd rhyngddo a'i gartref. Derbyniodd ein harwr y cynygiad gyda pharodrwydd, o herwydd gwyddai fod Walter wedi rhoi prawf ar gariad Gwen, a theimlai awydd gwybod y canlyniad.

"Wel, Llewelyn," meddai Walter, wrth iddynt fyned trwy lôn gul, yn cael ei hymylu ar bob ochr â choed cysgodol—" y mae'n ymddangos fod holl freuddwydion melus fy ieuenctid i gael ei siomi, canys y mae Gwen yn gwrthod gwneyd dim â mi; mewn gair, dywedodd yn blaen na fydd iddi byth fy ngharu."

"Mae'n ddrwg genyf glywed hyny; ond rhaid i chwi beidio ystyried y pwnc fel wedi ei benderfynu, cyn i mi roddi fy holl ddylanwad o'ch plaid. Byddai'n o anhawdd genyf gredu y bydd i Gwen wrthod unrhyw beth a geisiaf fi ganddi."

"Ië; ond nid yw hynyna'n un prawf y bydd iddi hi fy ngharu fi;—dichon y gellwch chwi ei pherswadio i dderbyn fy nghynygion er eich mwyn eich hun; ond pa fodd y gellir cael ganddi fy ystyried yn deilwng o'i llaw er fy mwyn i?"

"Wel, y mae'r cwbl i ddibynu ar fy ymdrechion—fy