ei sefydlu ar ddarn tlws o farddoniaeth sydd yn yr hen lyfr Cymraeg yma, o waith Cymro, o'r enw Dafydd ab Gwilym, daethum ar draws geneth garuaidd, yr hon hefyd oedd yn darllen, ac yn ymddangos mor ddwys yn ei myfyrdodau ag oeddwn inau. Bu braidd i ni a tharo yn erbyn ein gilydd, mor agos yr aethom y naill at y llall cyn i'r un o honom wybod fod neb yn ymyl. Neidiodd yr eneth gam neu ddau yn ol, fel pe mewn braw, ac edrychai fel wedi synu. Nid oedd yn hardd iawn ymwisgai mor blaen a'r un merch ffermwr yn nghanol y wlad—ond yr oedd rhywbeth yn ei hymddangosiad ag a barodd i fy nghalon roddi tro a thoddi'n llymaid, wrth edrych arni. Yr oedd wedi ei gwisgo mewn du, fel pe buasai'n mournio, ac yr oedd ol gofid ar ei grudd. Wrth i mi edrych arni yn o galed, gwridodd ychydig. Yr wyf yn tybied ddarfod i'm hymddangosiad effeithio rhywfaint arni; ond curai fy nghalon fel calon aderyn bach wedi ei ddal mewn croglan. Edrychai tuag ugain oed, a chyn iached a rhosyn Mai. Ceisiais ymesgusodi am ddyfod ar ei thraws mor ddiddisgwyl. Ni's gwyddwn pa beth i'w ddweyd. Pan glywodd hi fy llais, edrychodd arnaf gyda'r fath dynerwch a lledneisrwydd, nes taflu fy holl enaid i fath o berlewyg. Dywedodd wrthyf, yn y llais mwynaf a glywais gan eneth erioed, heblaw Gwen, am beidio rhoi'r bai arnaf fy hun, gan ei bod hi mor feius a minau. Ac yna hi a aeth yn ei blaen, gyda 'i llygaid mawrion yn syllu'n wylaidd ar y llawr. Wyddwn i ddim beth i'w wneyd—pa un ai myned yn fy mlaen—sefyll yn yr un man—ynte myned ar ei hôl hi. Ond deliais i edrych arni, nes yr aeth o'r golwg, yr ochr arall i'r goedwig sydd o'r tu cefn i hên dŷ fy mam. Edrychais o'm hamgylch, ond nid oedd yr holl olygfa hardd yn ddigonol i ddiddyfnu fy meddwl oddi ar y rian oedd newydd fy mhasio. Rhoddaswn yr holl fyd, pe yn fy meddiant, am gael ei gweled yn troi yn ei hôl, i siarad un gair â mi. Parhâi fy nghalon i guro—ymwibiai fy meddyliau'n ormodol i mi allu darllen dim ychwaneg; felly cauais y llyfr, eisteddais ar wreiddyn gwyn hen goeden fawr oedd yn cysgodi'r cornant, ac ni's gallwn feddwl am ddim ond am y fenyw. Dyfalais pwy a allai fod—o herwydd nid oeddwn wedi ei gweled erioed o'r blaen y ffordd honno, er i mi fod yn cerdded yno ganwaith—a phoenais fy hun a thybiadau fyrdd. Wedi eistedd yn y fan honno na wn i ddim pa hyd, cofiais fy mod wedi addaw wrth y wraig sy'n byw ar y fferm, bod yno erbyn amser ciniaw. Codais yn ebrwydd, ac aethum i chwilio am damaid o fwyd."