i drin dynion yn y cyflwr hwnw yw gadael iddynt gael cymaint ag a ellir yn rhesymol a diogel o'u ffyrdd eu hunain.
"Trugaredd anwyl!" gwaeddai Llewelyn drachefn,"mae genyt bâr o lygaid dychrynllyd, Ifan—erchyll—melldigedig! Lle cefaist ti nhw? Pa ddiafl a'u gwnaeth mor uffernol yr olwg? Nid llygaid dynol ydynt, mi wnâf lw—nage'n wir! Tebyg i ba beth y meddyliet ti fy mod yn gweled dy lygaid hyllion?"
"Wn i ddim yn wir?" ebe'r meddyg, yr hwn a gamgymerai Llewelyn am Ifan Llwyd.
"Maent yn union yr un fath a phâr o lygaid un o ddamnedigion uffern—tra'n llygadrythu rhwng barau tanllyd ei garchar! Beth feddyliet ti o'r drychfeddwl yna, Ifan?"
"Mi feddyliwn ei fod yn un dychrynllyd ofnadwy," atebai'r meddyg.
"Ha, ha, ha!—Ha, ha, ha!" rhuai Llewelyn fel anghenfil wedi digio—"Diafliaid ydych i gyd fel yr ydych yn y fan yma. Ond mi fedraf fi, gan y'ch bod yn sôn am ddrychfeddyliau dychrynllyd, greu rhai teilwng o Homer — Shakespeare—o Goronwy Owain. Ac mi gewch fy nghlywed yn dweyd pethau mwy barddonol fyrdd o weithiau na hwnyna, yfory; o herwydd yr wyf yn bwriadu myn'd i lawr i annwn, i ddysgu'r ellyllon siarad Cymraeg; a phan ddeuaf yn ôl, mi rôf wers i ti, Ifan Llwyd, yn ei hiaith hwy, a wnaiff y tro i ti gadw cwmpeini'r Blue Bell i chwerthin am ddwy flynedd gron—ha, ha, ha!"
"Ifan!" gwaeddai drachefn—" Lle mae Bili Vaughan?—lle mae Ffred Jones? — lle mae Walter? Ha! mae'r corgi hwnw'n meddwl mai beirdd yr Alban yw'r goreu,—oni bai ei fod yn gariad i Gwen fy chwaer, mi fuaswn yn ei alw'n ffŵl. Gelwch o yma! Ho, Walter, ddaethoch chwi?" meddai, gan droi at y Cymro oedd yn sefyll wrth ochr y meddyg. "O'r goreu. 'Rwan—mae genyf ddarn o farddoniaeth i'w adrodd, a digon o ddrychfeddwl ynddo fo i yru'r byd yn bendramwnwgl. Pa Aristophanes?—pa Sophocles?—pa Virgil?—pa Byron?—ië Byron, Scotchman oedd ef, onid ê? Ond pa—Ifan Llwyd, paham yr wyt yn siarad ar fy nhraws fel yma? Nid yw'n ymddygiad boneddigaidd, gweddaidd, moesgar, mewn un modd." Tawodd am fynyd neu ddau. Yna llefodd yn groch,—
"Ah! glywsoch chwi'r daran yna?——welsoch chwi'r mellt? Ofnadwy!——mawreddog! — arddunol! Well done, Dafydd ab Gwilym!—ti oedd yr unig fardd er dechreuad