llyfr mewn llythyrenau breision, fel y gallai pawb a'i gwelai ei ddarllen. Ymwasgarodd y gynulleidfa, ac aeth pob un i'w le ei hun, a Llewelyn Parri a'i deulu yn eu mysg. Y gymdeithas newydd a'i bendithion oedd testun ymddyddan pawb ar y ffordd.
Fel yr elai Llewelyn Parri gartref, gyda 'i blant yn un llaw a Morfudd ar ei fraich arall, mynych oeddynt y llongyfarchiadau a wneid iddynt gan eu hen gydnabod. Ond ni siaradodd Morfudd yr un gair nes cyrhaedd y tŷ, yr hwn yr aeth iddo y noson hon gyda mwy o sirioldeb nag erioed o'r blaen. Teimlodd fod y perygl wedi ei basio—fod y cwmwl wedi cilio ymaith—fod ei gŵr a'i phlant wedi ei hadferu iddi.
"Llewelyn! anwyl Lewelyn!" dywedai'n ddystaw, gan dori allan i wylo.
"Fy anwyl Forfudd! fy ffyddlon, ymroddgar, garedig, wraig!" meddai yntau, yn dyner, gan roddi ei fraich o'i chwmpas.
Rhoddwyd y plant yn eu gorweddfa, a chysgasant yn ebrwydd. Eisteddai'r gŵr a'r wraig ar ddwy gadair a brynasant gyda chyfran o'r pum' punt a roddodd Mr. Powel i Morfudd.
"Y mae nos hir, ddu, annedwydd, wedi bod yn ein gorchuddio, fy Morfudd," meddai Llewelyn; "ond trwy gymhorth Duw, fe dyr y wawr arnom bellach. Buoch chwi yn wraig ffyddlon a mam dyner trwy bob trallod a chyni; ac o hyn allan, mi fyddaf finau yn dad ac yn ŵr teilwng o honoch chwi a'r plant anwyl. Achosais i chwi lawer o anghysur a chaledi, ond mi fyddaf, bellach, trwy gymhorth gras, yr hyn y dylwn fod."
Ymwasgai Morfudd yn nes ato, gan edrych yn ymddiriedgar yn ei wyneb, a dywedyd,
" Y mae rhywbeth o fy mewn yn dweyd wrthyf fod y gwaethaf wedi myned heibio—fod y dymestl wedi ei thawelu—fod y llifeiriaint wedi eu hatal. Y mae fy nghydwybod yn cyd-dystiolaethu â'r boneddigion a glywsom yn areithio, fod rheolau'r gymdeithas newydd yma yn gwbl effeithiol i sobri'r byd; ac yr wyf yn credu y bydd i fy anwyl Lewelyn, ar ol ymuno a'r fath gymdeithas, fod o hyn allan yn ddyn sobr."
"Yr wyf finau'n teimlo yr un peth yn union," ebe Llewelyn. "Yr wyf yn cofio dweyd wrth fy mam, pan oeddwn yn hogyn diofal, y buaswn yn ymwrthod am byth â'r dïodydd meddwol, pe y byddai i gymdeithas o'r fath yma gael ei sefydlu; ac yr wyf yn cofio i'r hen wraig ddweyd ei bod hi yn credu y byddai i Dduw roddi yn