STOWE" Gymreig o ffughanes-wraig; cynllunia, a dyfala, a dwg bethau o amgylch yn dra ffodus, moesol, ac addysgiadol, yn ol ansawdd a chyfeiriad y plot. Yr arwr yw "Frank," swyddog ieuanc yn y fyddin, a dechreuir gyda 'i anturiaethau carwriaethol gyda Miss Robertson; darlinellir y cymeriadau yn bur dda. Mae y dygwyddiadau yn ymylu ar y "rhyfeddol" rai o honynt; eto yn ddigon tebygol, ac yn dyfod o amgylch yn hollol naturiol. Cawn ein harwain at arwredd benywaidd; hunanladdiadau bwriadol, eto yn cael eu rhagflaenu; eiddigedd a dialgarwch rhith-gyfeillion; a lliaws o ddygwyddiadau, yn dangos peryglon ieuenctyd oddiwrth eu nwydau a'u ffoleddau eu hunain, yn gystal ag oddiwrth fradwriaeth, eiddigedd a hudoliaeth rhith-gyfeillion, a chymdeithion ofer a diddarbodus. Dangosir galluoedd pert a heinyf, a chelfyddyd a medrusrwydd awdurol mawr gan yr ysgrifen-wraig hon at lunio ffugchwedl, a'i gweithio allan yn bur naturiol, dyddorol, a tharawiadol. Cyfyngodd ei hun at draethawd rhy fyr, yn hytrach, i wneyd chwareu teg â'r cynllun, ac i'w ddadblygu yn ddigonol.
Y peth gwaethaf yw, fod yr iaith yn anghywir iawn; yn llawn o briod-ddulliau (idioms) Seisnig—y Gymraeg yn ymddangos fel estroniaith wedi ei dysgu yn anmherffaith ganddi. Portreiadir golygfeydd a phersonau y ffughanes mewn cylch cymdeithasol uwchraddol i'r werin, yr hyn a'i gwna yn wanach ei dylanwadar syniadau sydd wedi cynefino â dull mwy syml a diaddurn ar gymdeithas; ond gallai gynnyrchu llawer o addysg a bod yn foddion i ddyrchafu llawer ar ein cenedl mewn moesau ac arferion pe diwygid yr iaith i Gymraeg loew lân. Efallai y dylwn ddweyd i'r traethawd yma ddyfod i law ddiwrnod yn rhy ddiweddar yn ol yr ammod gyhoeddus.