Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn mhen y flwyddyn ar ol hyn, y daeth Ifan Llwyd ar draws Llewelyn. Y mae'r amgylchiad hwnw wedi ei ddesgrifio eisoes.

Mewn perthynas i hen gyfeillion Llewelyn, fe ddaethant i ddiwedd amrywiol a gwahanol i'w gilydd.

FFREDERIC JONES.—Aeth ef yn mlaen yn ei feddwdod nes dwyn ei hun i dlodi mawr. Yn ei dlodi, lladratȧodd arian o ariandŷ, ac alltudiwyd ef am ei oes i Bombay. BILI VAUGHAN.—Pan glywodd ef am fywyd diwygiadol Llewelyn Parri, a phan ddywedwyd wrtho ei fod i areithio ar Ddirwest un noson, aeth Bili i wrandaw arno; a'r can— lyniad fu iddo ardystio. Bu farw 'n ddirwestwr selog, ar ol gwneyd llawer iawn o les i feddwon yr ardal.

GWR Y BLUE BELL.—Gwrandawodd yntau ar lais Dirwest—tynodd ei arwyddfwrdd—gollyngodd y cwrw—a thrôdd at fusnes arall—gonest.

YR ENETH A HUDODD LLEWELYN PARRI I'R DAFARN TRWY DWYLL.—Cafodd Llewelyn hyd iddi, yn ei hynt genadol trwy 'r dref, mewn tŷ drwg, bron a marw. Dygodd Llewelyn hi i'r yspytty. Ac yno, yn nghlyw yr offeiriad, hi a roddodd hanes ei bywyd. Cafwyd allan mai geneth oedd i'r truan Sion Williams a ddesgrifiwyd yn agos ddechreu ein llyfr. Twyllwyd ac arweiniwyd hi o lwybrau diweirdeb, gan Ffrederig Jones. Efe a Walter a'i llogodd i osod y cynllwyn hwnw i'n harwr. Bu 'n sâl am wythnosau yn yr yspytty; a bu farw 'n dra edifeiriol.

Trodd Llewelyn Parri allan i fod yn fath o genadwr i'r meddwon. Argyhoeddwyd lliaws mawr trwyddo. Dyg— odd ei blant i fyny yn anrhydeddus, ac y mae un o honynt yn fyw yn awr, ac yn Ddirwestwr rhagorol. Bu farw yn llawn o ddyddiau, cyfoeth, dedwyddwch, ac anrhydedd; a phan gladdwyd ef, fe welwyd cannoedd yn gwlychu ei fedd a'u dagrau, ac yn bendithio enw y MEDDWYN DIWYGIEDIG.

MERTHYR ARGRAFFWYD GAN REES LEWIS.