Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nerth y mae gweddi yn ei hyfforddio, pan fydd amgylchiadau allanol fel yn cyduno i ddarostwng yr ysbrydoedd, a llwfrhau'r enaid. Ac nid dyma'r tro cyntaf i Mrs. Parri deimlo nerth ac adfywiad wrth droi at orsedd gras mewn cyfyngder. Cafodd ei thawelu'n fawr, a theimlai fath o lawenydd dystaw yn dyfod dros ei chalon wrth feddwl fod Un a'i lygaid bob amser yn gwylied pob ysgogiad, ac yn barod i'w hamddiffyn rhag pob enbydrwydd.

Clywai lais llawen Llewelyn a Gwen bach yn chwareu yn y gegin. Ar hyn dyna rat-tat llythyr-gludydd ar drws. Llamai ei chalon lawenydd wrth feddwl fod llythyr wedi dyfod oddiwrth ei gŵr, a rhedodd i lawr ei hunan. Cyfarfyddodd y forwyn hi gyda llythyr mawr yn ei llaw. Neidiodd am dano gydag awyddfryd cariadferch gynhes-galon, ac enciliodd i'w hystafell ddirgel i ddarllen ei gynwysiad. Eisteddodd yn ei chadair gydag ochenaid o foddineb, fel pe buasai cadwen haiarn yn gollwng ei gafael o'i chalon, wrth ganfod fod y llythyr yn dwyn marc post New York.

Fel y bydd ar un ofn i fynyd o ddedwyddwch anghyffredin ysgubo'n rhy fuan o'i afael, felly hithau, am fynyd, a ddaliai y llythyr yn ei llaw-cusanai ef a thrôdd ef am y waith gyntaf i edrych ar y llawysgrifen cyn agor y zel.

Ond y fath siomedigaeth! nid llawysgrifen ei gŵr oedd hi yn y diwedd. Heblaw hyny, yr oedd y sel yn ddu. Pwy a allai yr ysgrifenydd fod? Beth a allai fod y genadwri? Ac o New York hefyd! Neidiodd y wraig o'i chadair mewn braw dysymwth.

Ah! y fath bwysigrwydd sydd yn gynnwysedig yn y llythyr yna! Wraig addfwyn, ni'th gynghorem i beidio bod ar ormod brys i' i'w agor, rhag ofn y bydd i ti gael gwybod rhywbeth na ddymunai dy galon. Nid oes ond y sel ddu yna rhyngot a chael ar ddeall dy fod yn weddw! A wnei di ei agor?

Ië, ei agor a wnaeth gyda llaw grynedig, darllenodd yr ychydig linellau cyntaf ynddo. Nis gallai fyned yn mhellach. Syrthiodd ar y llawr fel darn o blwm, gan roddi bloedd a ddeffroai bob ecco yn y mur!

Rhuthrodd y morwynion ati mewn mynyd ar ol clywed yr ysgrech a thwrf y cwymp. Ond aeth oriau lawer heibio cyn i allu meddygol penaf y dref ei dwyn i deimlad o'i gwir sefyllfa adfydus.

Braidd nad oedd yn ddig am i neb gymeryd trafferth i'w dwyn ati ei hun. Pa gysur oedd iddi hi mwyach? Ai nid oedd ei gŵr wedi myned i ffordd yr holl ddaear? "Pa'm