Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pentref yn eu cynllunio i ddychrynu ambell i gariadlanc ofnus, ar ei ffordd adref o garu! Penderfynai un daflu cath wedi ei rhwymo wrth hwyaden, trwy simnai un o'r tai lle y byddai llu wedi ymgyfarfod i dreulio'r noson; a chaffai'r bechgyn oll bleser mawr wrth feddwl fel yr ysgrechid wrth weled yr ymwelyddion hynod yn dyfod i lawr bendramwnwgl trwy'r simnai, efallai i ddisgyn mewn cwmwl trwch o barddu i ganol y crochan a'r cyflath. Cytunai eraill i chwythu asiphetta trwy dwll clo rhyw dŷ, er mwyn cael y pleser o weled yr anneddwyr yn rhuthro allan, er cael ymwared oddiwrth yr arogl drwg. Parotoai'r lleill eu gyddfau i fyned i ganu carolau, rhai i'r Eglwys, a'r lleill o gwmpas y pentref. Felly, pawb yn ol ei dueddiad yn penderfynu gwneyd y goreu o'r Nos Nadolig.

Bu Llewelyn a Walter hefyd yn addaw iddynt eu hunain bleser nid bychan nos a dydd Nadolig. Penderfynent hwythau chwilio am ryw fwyniant diniwed, ag a wnai iddynt gofio gyda hyfrydwch mewn adeg i ddyfod, fel y bu iddynt dreulio gwyliau'r Nadolig yn B——

Gwelwyd papyrau wedi eu gludio hyd barwydydd y dref, i hysbysu fod cwmpeini o Saeson yn myned i roddi cyngherdd yn y Town Hall, ar Nos Nadolig, pryd y byddai chwech o'r cantorion enwocaf yn y deyrnas yn canu rhai o'r darnau cerddorol goreu. Yno y cytunodd ein harwr a'i gyfaill fyned. Nid llawer o gyngherddau a gawsant tra yn y Coleg; er iddynt gael ambell un hefyd; a dysgwylient y byddai cyngherdd fel hyn yn "drêt" mawr iddynt.

Saith o'r gloch a ddaeth, a gwelwyd dau neu dri o gerbydau o'r palasau cyfagos yn chwyrnu myned tua'r Town Hall. Gwelodd Llewelyn ar unwaith fod y cyngerdd i fod yn un "respectable," yr hyn oedd arno ef ei eisiau uwchlaw pob dim, rhag anfoddloni ei fam wrth ymgymysgu a dosbarth israddol iddo ef ei hun, mewn pleserau, er na ddywedasai'r foneddiges dda yr un gair yn erbyn iddo ymgymysgu faint a fynai â'r dosbarth isaf, mewn gwneyd rhyw les iddynt. Gofal mawr oedd ganddi am gymeriad ei mab.

Cychwynodd Llewelyn a Walter tua'r man apwyntiedig. Cymerasant eisteddle bob un yn nghanol y boneddigion; a gwelid yn ebrwydd y sylw a dynent yn y lle.

"Pwy yw'r ddau ŵr ieuanc hardd yna?" oedd yr ymholiad cyffredinol.

"Llewelyn Parri, mab y diweddar Mr. Meredydd Parri," meddai ambell un ag oedd yn dygwydd adnabod Llewelyn.

"Yn wir," meddai un arall, "y mae Mrs. Parri wedi cael