wrth ei draed;—gwel ei wyneb gwelwlas, fel pe ba'i angeu yn tremio yn ei wedd;-gwel ei ddwylaw dyrchafedig, fel pe ba'i yn ceisio cadw rhyw alanastr draw! Beth y mae yn ei weled? A yw uffern yn y golwg? Nid wyt ti'n gweled dim. Na-nid yw dy lygaid wedi eu hagor fel yr eiddo ef; a gobeithio Duw na chant byth ychwaith! Ond y mae ef yn gweled rhywbeth. Ydyw, y mae'n gweled mor wirioneddol ag sydd modd i ddim fod, neidr fawr yn dyfod trwy'r drws yna, a'i safn fawr yn agored a'i cholyn fforchog allan, mae'n ei gweled yn dyfod yn nes-nes-nes ato, ac y mae'n clywed ei chwythiad gwenwynig wrth iddi nesâu. Cilia yr adyn yn ol gymaint fyth ag a all, nes y mae'n ymgrwtian yn blygion yn nghongl bellaf y gegin, gan ddal ei ddwylaw i fyny i geisio cadw draw yr anghenfil dychymygedig. Yn awr, y mae'n gweled y sarph yn cymeryd ei naid arno! Y mae'n teimlo 'i thorchau llysnafaidd, oer, yn ymddolenu gylch ei wddf a'i aelodau! Oh'r waedd yna! Tybed na dderfydd hi byth a swnio yn dy glustiau? Yr oedd yn debyg i ysgrech ellyll colledig! Tybed mai dychymyg yw fod swn crechwen i'w glywed yn ysgube trwy'r awyr? Y mae yn bur debyg i drwst diafliaid yn rhedeg â'u hysglyfaeth o fyd, er gwaethed yw, sydd eto'n rhy dda i feddwon o fath Harri Huws! Pa fodd bynag, nid oes yn aros yn y gongl yna, yn awr, ond corph marw y meddwyn!
Digon naturiol oedd i'r wybodaeth am ddiwedd truenus Harri Huws effeithio yn ddwys ar feddwl Llewelyn Parri. Llwyddodd yr amgylchiad i gael ganddo gasâu meddwdod yn fwy nag o'r blaen ond ni fynai er dim goleddu syniad ei fam, mai gwell yw cadw draw oddiwrth bob diferyn o ddïod feddwol. Yn ngwregys cymedroldeb y penderfynai weithio 'i ffordd trwy'r byd.
PENNOD VIII
Y MAE diwedd i bob mwyniant. Daw pob Gwyliau i ben. Nid oes yr un difyrwch daearol i barhau byth; a chanfyddir bob amser fod mwy o bleser mewn rhagddysgwyl pleser nag sydd mewn cael ei fwynâu pan ddelo. Tra yn ei ddysgwyl nis gellir meddwl ond am ei burdeb; ond tra yn ei fwynâu, bydd hyd yn oed y mwyniant yn cael ei gymysgu â gofid, wrth feddwl mor fuan yr aiff drosodd.