Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enill yn rhwydd oddiar ei gyd-ysgoleigion, llawer o ba rai oeddynt mewn meddiant o ddigonedd o arian. Gwnaeth gyfaill mynwesol o'n harwr, yr hwn oedd yn llawer mwy diddichell nag ef; a llwyddodd i wneyd twlsyn mynych o hono i ateb ei ddybenion ei hun. Ond bu yn ddigon cyfrwysgall a gochelgar i ddallu llygaid Llewelyn rhag canfod ynddo yr un bai, na drwgdybio fod yn ei fryd unrhyw ddyben drwg. Ymddiriedai ein harwr ei gyfrinachau mwyaf dirgel i Walter, yr hwn, er mwyn pwmpio mwy allan o hono, a ddadguddiai yn awr ac eilwaith ychydig o'i bethau dirgel ei hun iddo yntau.

Dyma'r llanc a ddygodd Llewelyn gydag ef adref i fwrw'r Nadolig. Hoffai Mrs. Parri ffraethineb y bachgen, a'i ddullfoesau, a'i ledneisrwydd ymddangosiadol yn fawr; eto, nis gallai mewn un modd roddi ymddiried ynddo. Nis gwyddai paham; ond eto, tybiai ei bod yn canfod rhywbeth yn nghongl ei lygaid a fradychai ddiffyg egwyddor, ac fod yr arlinellau o gwmpas ei geg yn dangos dichell. Ond cadwodd hi bob drwgdybiaeth am dano iddi ei hun.

Cyrhaeddodd y ddau ŵr ieuanc y coleg yn ddiogel. Anfonodd Llewelyn lythyr cariadus adref at ei fam, yn yr hwn y rhoddai ddesgrifiad bywiog a barddonol o'i daith, ei groesawiad yn ol, a'i obaith am ddyfod adref drachefn yn llawn anrhydedd ac urddau, yn mhen y mis.

Aeth tair wythnos o'r mis heibio. Yr oedd haner dwsin o'r colegwyr uchaf wedi cydymgyfarfod un prydnawn yn ystafell un o honynt. Drwg genym iddynt gyfarfod gyda'r fath ddyben iselwael. Dywedodd un o honynt wrth y lleill,

"Wel, gyfeillion, y mae adeg yr arholiad cyffredinol yn dynesu, pryd y bydd prawf teg yn cael ei roddi ar alluoedd a chyrhaeddiadau pob un o honom. Ac y mae pob tebygolrwydd y bydd i'r Cymro yna-Llewelyn Parri-fyned a'r llawryf werddaf gydag ef i fryndir Cymru. Yn awr, y mae ein gogoniant a'n anrhydedd ni yn dybynu a ar pa un a ellir ffurfio rhyw gynllun i rwystro iddo ef ymddangos yn yr arholiad; ac os oes modd, nid plan drwg fyddai tynu tipyn o waradwydd ar ei ben. Beth a ddywedwch, frodyr?"

Meddai un arall,

"Yr wyf fi'n cydsynio yn hollol â fy nghyfaill, ac yn barnu y dylem arfer rhyw foddion i ddiraddio'r ddafad ddu yma!"

"Ond pa gynllun a ellir ei gael?" gofynai'r trydydd. "Gadewch y pwnc hwnw yn fy llaw i!" ebe Walter