mewn croesaw i Lewelyn, pan ddaw adref i aros, yr ydwyf. Cyfansoddais ddau benill eisoes; dyma nhw:-
Can croesaw i Lewelyn gu
I sangu eto dŷ ei fam;
O boed rhagluniaeth nef o'i du,
I'w wared rhag cyfarfod cam;
'Nol cyrhaedd copa ysgol dysg,
A chael coronau am ei ben,
Mil croesaw iddo yn ein mysg,
I dderbyn serch ei Fam a'i Wen.
Darparer seigiau ar ei ran,
Cyweirier y biano fwyn;
O boed llawenydd yn mhob man,
Ei lwybrau hulier â phob swyn:
Mi blethaf goron lawryf werdd,
A ser o'r rhos a'r lili lon,
A chanaf iddo felus gerdd,
Gynhyrfa serch ei ddynol fron.
Yr unig arwydd o gymeradwyaeth a ddangosodd Mrs. Parri oedd, gostwng ei phen i roddi cusan garedig ar foch rosynaidd yr eneth, a gadael ar ei hol berlyn gwlyb, yr hwn a brofai fod y llinellau wedi cyfhwrdd ei chalon. Gwnaeth hefyd iddi gyfhwrdd â dernyn o'r dôn a fwriadai i'w chanu ar y geiriau. Yna gadawodd y fam dirion i'r eneth fyned yn mlaen.
Daeth y gwas i'r tŷ, a dywedodd ei fod wedi gweled dyn ieuanc yr un fath yn union a Mr. Llewelyn Parri yn myned i fewn i'r Castle Hotel. Dychrynodd hyny y fam a'r ferch. Aethant yno i edrych, er eu bod yn credu mai camgymeryd a wnaeth y gwas. Ond, pwy a welent yn dyfod allan, gydag ol diod arno, ond Llewelyn. Bu braidd i'w fam a syrthio i lawr mewn llewyg; ond cafodd nerth o rywle. "Fy anwyl fachgen!" meddai, beth wyt ti yn ei wneyd yn y fan yma?"
"Wn i ddim!" ebe'r llanc.
"Llewelyn!" meddai Mrs. Parri drachefn; "y mae rhywbeth annymunol wedi cymeryd lle mi wn; tyr'd adref, fy machgen, a dywed wrth dy fam beth sy'n bod." Cymerodd afael yn ei law grynedig, ac arweiniodd ef i'r tŷ. Wedi cyrhaedd yr annedd, ac eistedd yn yr hen barlwr, hi a ddywedodd wrtho,
"Wel, gâd i mi glywed y cwbl, pa mor anghysurus bynag y gall yr hanes fod. Pa beth a ddygwyddodd?"
"Dim 'chwaneg nag fy mod wedi cael fy nhroi allan o'r coleg," atebai yntau, gyda 'i lygaid wedi ei sefydlu ar y carped.