Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am fwriad y lleill, faddeua i byth iddo fo am beidio fy rhybuddio. Ond fedraf fi ddim dweyd yn iawn pa un a wyddai a'i peidio."

"Wel, Llewelyn," ebe 'i fam, "ni fu genyf fi erioed yr ymddiried lleiaf yn y bachgen hwnw. Ofnwn bob amser mai un dichellgar a diegwyddor oedd."

"Feddyliais i erioed mo hyny; ond yr wyf yn gorfod talu'n ddrud am fy ngwers yn athroniaeth y natur ddynol. Walter oedd y diweddaf yn y byd y buaswn yn meddwl hyn am dano."

"Ond Llewelyn, dichon pe y buasit wedi cadw at fy nghyngorion i, sef darllen dy Feibl bob dydd, a gweddio yn wastadol am nerth i wrthsefyll temtasiynau, na fuasai hyn wedi dygwydd i ti."

"Wyddoch chwi beth, mam; nid wyf yn credu fod yr un diwrnod wedi myned dros fy mhen heb i mi ddarllen pennod a gweddïo. Ond er hyn i gyd, y mae gan y ddïod y fath ddylanwad arnaf pan yn nhrwst lliaws o fechgyn gwylltion, fel os unwaith yr af i ddechreu yfed gyda hwynt, yr wyf yn myned i ddibrisio pobpeth ond difyrwch y gyfeddach. Oh! pe cawn fod bob amser yn eich cyfeillach chwi a Gwen, yna gallwn roi her i'r gelyn!"

"Wel, wyt ti ddim yn meddwl y byddai modd i ti roi her iddo fo trwy ryw ddull arall-rhyw ddull ag a fyddai yn sicr o gadw dylanwad arnat hyd yn oed pe byddai dy fam a'th chwaer wedi myned o dy afael am byth?" "Ond yr anhawsder yw cael rhyw ddull felly." "Beth feddyliet ti o fy syniadau ychydig wythnosau yn ol—ymwrthod yn dragywyddol â phob math o ddïodydd sy'n meddwi ac yn gwallgofi dynion?"

"Mae'n annichonadwy i neb wadu mai dyna fyddai y llwybr mwyaf effeithiol; ond y mae eisieu cofio fod cyflwr cymdeithas yn y wlad y cyfryw nas gellid rhoi penderfyniad felly mewn ymarferiad—fe achosai i'r llwyrymwrthodwr gael ei ystyried yn fath o wallgofddyn, neu un awyddus am wneyd ei hun yn hynod ar bobl eraill. Pe b'ai rhyw ddynion parchus yn ffurfio cymdeithas, fel y gallai eraill ymuno â hwy yn anrhydeddus, a'r gymdeithas honno yn rhwymo ei haelodau i roi'r goreu am byth i bob math o ddiodydd meddwol, ni phetruswn am foment gynyg fy hun yn aelod; a chredu yr wyf y byddai i rywbeth felly fy nghadw i a miloedd eraill cyffelyb i mi, o afael crafangau haiarnaidd y pechod yma sydd mor barod i fy amgylchu."

" Yr wyt yn siarad yn fwy teilwng o honot dy hun yn awr nag y siaredit y tro o'r blaen ar y pwnc yma," meddai