Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, gobeithio y bydd iddo wneyd i ti ei deimlo gyn drymed fel ag i lefain am gael ymwared oddi wrtho!"

"Ië; ond yr wyf yn meddwl y gallwn ddwyn fy maich yn well pe yr ymddygech chwi yn llai maddeugar. Pe buasech yn dyfod ataf gyda gŵg, yr wyf yn meddwl na theimlaswn fy hun mor annedwydd a siomedig."

"Ha! fy mab—cofia mai dy fam ydwyf. Ac y mae cariad mam yn cuddio llïaws o bechodau. Ond paid a meddwl dim ychwaneg am hyn yn awr, na byth ar ol hyn, ond yn unig pan fyddi'n cael dy demtio eto—yna meddwl am dano faint a fyno dy galon, a cheisia gofio fod modd tynu cariad mam at ei derfyn eithaf. Mae'r te'n barod bellach; tyr 'd i lawr, fy machgen."

PENNOD IX.

"Iechyd da i ti, Wil Dafis," meddai Owen Roberts. "Tanci, Owen—'r un peth i titha'."

"Tanci. Beth wyt ti'n feddwl o'r cwrw 'ma? Cwrw Llangollen, medda' Mr. Evans wrtha' i."

"O, stwff iawn ydi hwn—mae o'n crafu gwddw rhwfun wrth fyn'd i lawr. Cawn i beint o hwn bob dydd mi awn gin gryfed a cheffyl."

"Ond, glywist ti ddim pwy sy wedi dwad i fyw i'r Plas Newydd, ar ol i Lord V—— 'madael?"

"Do."

"Pwy?"

"Rhyw Scotsman o Scotland. Ac y ma' nhw'n dweud o gwmpas y Plas, mai rhyw garp o'r gŵr bynheddig mwya' cybyddlyd chw'thodd wynt yrioed ydi o. Clywais wraig y Lodge yn deud na roiff o mo'i f———i'r ci, os medar o gael careg i roi arno fo."

"'Mhell y bo'r Scotsmun yma! nhw sy'n dwad i bob lle brâf yn Nghymru rwan. Hidiwn i ddim baw a rhoi 'i ardd ŷd o ar dân un o'r dyddia' nesa' 'ma, wel 'd i."

"Twt lol, gad iddo—fydd o byw fawr i gyd. Mae o bron a chw'thu 'i anadl ola'. Ac y mae un ai ŵyr ne' nai iddo yn ei ganlyn—y gŵr bynheddig mwya' cyredig yn y byd. P'run bynag ai Scotsman ai Gwyddel ai Sais ydi o, mae o'n ddyn bob modfedd. Ac mi gei di wel'd fel y bydd o'n i chwafrio hi ar hyd y caea'na amser hela nesa.' Mi cyfarfyddis i o ddoe, ac mi dynodd sgwrs hir â mi.