"Wel, yr wyf yn gweled mai ofer yw i mi ddysgwyl am i ti wella dy fuchedd, tra yn dilyn y cwmni sydd genyt yn awr; ac mai anhawdd yw i ti eu hysgoi tra y trigi yn y dref yma. Gan hyny, yr wyf yn gofyn i ti yn awr, os wyt yn caru dy les dy hun—os wyt yn prisio calon a chysur dy fam—os wyt yn hidio rywfaint am ddedwyddwch dy chwaer—os wyt yn caru dy enaid dy hun—a ddeui di gyda mi i fyw i'r wlad? Y mae Mr. Powel yn dweyd y gall ef gael fferm i ni, lle y gallwn fyw fel angelion bach, ond i ti gadw oddiwrth y ddïod."
"Deuaf!"
"Da machgen i! pwy a ŵyr nad oes amser dedwyddach yn nghadw i ni eto?"
"Os fy ngwaith i'n peidio meddwi a all ddwyn yr amser hwnw i ben, fe ddaw yn ddiffael, o herwydd yr wyf yn addaw yn ddifrifol, os caf ond unwaith ymwared oddiwrth y cymdeithion sydd yn fy llusgo megys â chadwyn haiarn i ffosydd a chorsydd meddwdod, y bydd i mi fod yn ddyn gwahanol rhagllaw. Oh mor ddedwydd fydd cael neb ond chwi a fy anwyl chwaer yn gwmpeini i mi, rhagor bod yn swn a thwrw'r gyfeddach." Ac wylai'r llanc yn hidl! ****** Wedi i Mrs. Parri, ei mab, a'i merch, ymadael o'r dref, a myned i fyw i'r wlad, teimlai Llewelyn gryn chwithdod am ddiota, er iddo ymddangos, yn ngrym y meddylddrych cyntaf am gyfnewid sefyllfa, yn dra awyddus am gael ymwared o'r maglau. Crëodd ei arferion diweddar fath o awydd annynol ynddo am ddiodydd meddwol, a cherddai o amgylch ei drigle newydd, am yr wythnos neu'r pymthegnos cyntaf, fel dyn gwirion. Ond nid hir y bu tawelwch a phrydferthwch y lle heb effeithio cyfnewidiad arno. Yr oedd ef o duedd naturiol farddonol, a llwyddodd yr olygfa swynol—y coed a'r maesydd-y dolydd a'r nentydd—y bryniau a'r afonydd i ddiddyfnu ei feddwl oddi wrth au-bleserau llanciau gwylltion y ddinas; a mwy hyfryd yn ei glustiau ef oedd llais Gwen, wrth geisio dynwared y fronfraith a'r ehedydd, na holl grechwen a miwsig y tafarnau a'r singing rooms. Aeth ei yspryd fel yn raddol i gyfranogi o nodweddiad y pethau oeddynt o'i gwmpas. Daeth ymëangiad y dail gwyrddion-blaguriad y blodeu-tarddiad yr ŷd—ymchwyddiad y cornant—epiliad yr anifeiliaid yn wrthddrychau dyddorol iawn iddo; a dechreuodd ei gorph a'i feddwl gynyddu mewn iechyd a hoender. Aeth i edrych yn ol ar ei fywyd yn ystod yr ychydig fisoedd a aethant heibio gyd â ffieidd-dod,