Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er mwyn bod yn alluog i warchod ei fywyd ef, a'i atal rhag ymgymysgu eto â chyfeillion ag oed oeddynt wedi dangos eu hunain yn meddu y fath ddylanwad ar ei mab-y rhai a fuont mor agos i'w gael yn hollol o afael dylanwad rhinwedd a chrefydd. Gwyddai nad oedd ei bachgen yn alluog i gerdded am foment ar geulanau'r môr meddwol, heb syrthio iddo; a gwyddai ddarfod iddo wneyd hyny amryw weithiau, nes o'r bron cael ei ysgubo ymaith yn llwyr gan rym ei genllif. Pan gofiai hyny, hi a dywalltai ei chalon mewn gofid, ger bron Duw-traethai ei hofnau yn ddigel iddo ef, gan erfyn arno fod yn Dad ac yn Waredwr i'w mab. Pan yn gwneyd hyn, teimlai ei ffydd yn ymgryfau, ac ymfoddlonai i adael pob peth i law ei Harglwydd.

Yr oedd Mrs. Parri wedi dysgu cofio ei Chreawdwr o ddyddiau ei hieuenctid. Bu'n ddisgybl ffyddlon i Iesu Grist o foreu ei hoes. Nis gallodd llwyddiant bydol-rhwysg a balchder cylchoedd uchel o gymdeithas-sugno 'i bryd hi oddiar bethau Duw. Bu hi'n ffyddlon i grefydd, a bu crefydd yn ffyddlon iddi hithau. Galluogodd hi i ymgynal dan siomedigaethau, dan groesau, a gofidiau lawer. Ac yn awr, pan yn gorwedd dan afiechyd trwm, yr oedd ganddi oes ddefnyddiol i'w hadolygu, a dyfodiant dysglaer i edrych ato. Ymhofrai ei defnyddioldeb yn awr o'i chwmpas, fel y bydd pelydrau dysglaer yn amgylchu yr haul pan ar fachludo. Machludai haul ei bywyd hithau mewn prydferthwch a gogoniant, yn dawel ac arafaidd.

Ond yr awr ddysgwyliedig a ddaeth! Pan oedd yr holl dylwyth wedi ymgasglu o gwmpas ei gwely, un boreu, gwelwyd fod Angeu hefyd wedi dyfod i fewn. Nid oedd dim o swn ei draed i'w glywed, ond gwelwyd fod ei anadl yn gwywo bywyd Mrs. Parri yn gyflym. Tebyg ddarfod iddo gael gorchymyn i'w throsglwyddo o fysg ei phlant i'r byd arall yn y dull tyneraf ag oedd modd. Gorweddai'r wraig dduwiol yn dawel—ni ddywedai yr un gair, a chauai ei llygaid am gryn enyd o amser. Ofnodd Gwen na ch'ai glywed ei llais, na gweled ei llygaid tyner byth mwy. Ond agorodd hwy o'r diwedd, ac erioed ni welwyd monynt yn edrych mor ddysglaer mor seraphaidd ag yn awr. Gwibient o amgylch yr ystafell, megys pe heb yr un gwrthddrych i ymsefydlu arno, nes o'r diwedd iddynt gael eu sefydlu ar ben rhywun ag oedd wedi cuddio ei wyneb yn nghwrlid y gwely..

"Llewelyn!" meddai, mewn tôn isel, ond eglur.

"Fy mam anwyl!" meddai yntau, gan godi ei ben, ac yna ei ŵyro at ei genau hi.