Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

os nad gwell, nag y medrwn ni ddesgrifio iddo yr ingoedd a'r trallod a deimlai Llewelyn a Gwen ar ol colli eu hunig riant, a honno'n rhiant mor dda.

"Oh fy anwyl chwaer!" meddai Llewelyn, ar ol myned allan o ystafell y marw, "nid oes neb wedi ei adael ar y ddaear i ni, ond ein gilydd! Gan hyny, boed i ni gofio siars ddiweddaf ein mam-caru y naill y llall-bod yn ffyddlon i'n gilydd."

"Gwnawn Llewelyn anwyl!" atebai Gwen dan wylo yn y fath fodd nas gallai neb ond un yn yr un amgylchiad a hi wylo. "Caru-bod yn ffyddlon-dyna gymaint sydd genym i'w wneyd bellach; ac ni a wnawn hyny hefyd!"

Diwrnod prudd oedd y diwrnod y claddwyd Mrs. Parri. Yr oedd yr holl gymydogion wedi dysgu ei charu yn ystod yr amser byr y bu hi'n byw yn Brynhyfryd (enw'r fferm), o herwydd ei haelioni a'i chariad; a daethant yn lluoedd i'w hebrwng i "dŷ ei hir gartref." Nid oedd braidd yr un llygad sych yn ymyl y bedd, pan ddywedai yr offeiriad, "Pridd i'r pridd, lludw i'r lludw," a phan ddechreuodd y graian ddisgyn ar gauad yr arch. Gwlychwyd y pridd â miloedd o ddagrau, y rhai oeddynt yn gofgolofnau anrhydeddusach na phe y rhoddesid ceryg o farmor yn y fan. Safai, neu yn hytrach, gwyrai Llewelyn a Gwen fel delwau o geryg, a'u dwylaw'r naill yn eiddo'r llall. Mr. Powel, yn ol ei synwyr da arferol, a'u cymerodd o'r fynwent gyn gynted ag oedd modd, ac aeth a hwy i'w gartref ei hun.

Dyn go garedig oedd Mr. Powel, a dynes fwy caredig oedd ei wraig. Nid oeddynt erioed wedi cael eu hanrhydeddu â phlant; ac ystyrient eu hunain yn ddedwydd cael y brawd a'r chwaer amddifaid dan eu cronglwyd, i gymeryd gofal o honynt nes y deuent i'w hoed, ac yn alluog i fyw heb gymhorth yr un gwarcheidwad.

Cydsyniodd Llewelyn a Gwen, o wirfodd calon, i fyw gyda hwynt; a gwnaethant eu goreu glasi ysgwyd ymaith eu pruddglwyfedd, gan deimlo fod hoffder Mr. a Mrs. Powel o honynt y nesaf peth i hoffder eu rhieni. Ymdrechasant hwythau dalu yr hoffder yn ol yn ddau ddwbl. Pan ddywedodd Llewelyn, un prydnawn, mewn mynyd o bruddglwyfedd mwy nag arferol,

"Oh, ni ddychymygais erioed o'r blaen, beth yw bod heb fam!" atebodd Gwen ef gyda gwên ddifrifol,

"Ond, Llewelyn, nid ydym wedi ein gadael heb fam mae genym ddwy yn awr-un yn sant yn y nefoedd, yn edrych arnom fel math o angel gwarcheidwadol, ac un arall ar y ddaear yn edrych ar ein holau braidd mor ofalus ag y gwnelai ein mam gyntaf!"