Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEREDUR AB EFROG.

——————

EFROG IARLL oedd biau iarllaeth y Gogledd. A saith mab oedd iddo. Ac nid ar ei gyfoeth yn fwyaf y byddai Efrog byw, ond ar wrol-gampau, a rhyfeloedd ac ymladdau. Ac fel y mae yn fynych i'r neb a ganlyno ymladdau a rhyfeloedd, lladdwyd ef a'i chwe mab.  Seithfed fab a oedd iddo. Peredur oedd ei enw, a'r ieuengaf oedd hwnnw. Ac nid oedd mewn oed i fynd i ymladd nac i ryfel, petai mewn oed efe a laddasid fel y lladdwyd ei dad a'i frodyr. Gwraig ddoeth, ofalus, oedd yn fam iddo. A phryderu a wnaeth yn fawr am ei hun mab a'i chyfoeth, a hynny a gafodd yn ei chyngor-ffoi i anialwch a diffpethwch didramwy ac ymadael â'r cyfaneddau. Ni adawodd yn ei chymdeithas ond gwragedd, a meibion, a dynion didraha, na allent ac na weddai iddynt nac ymladd na rhyfela. Ni adawai i neb, yn y lle y clywai ei mab, gynnull na meirch nac arfau, rhag dodi o'r mab ei fryd arnynt. Ac i'r fforest yr ai y mab beunydd i chwareu, ac i daflu darnau o goed ac ysgyrion. Ac un diwrnod efe a welai ddeadell eifr ei fam, a dwy ewig yn gyfagos i'r geifr. A rhyfeddu yn fawr a wnaeth y mab fod y ddwy hynny heb gyrn, a chyrn ar y rhai eraill. A