Tudalen:Madam Wen.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr un gair garw i'w ddywedyd amdani, er yr holl siarad yn ei herbyn. Yr oedd ganddo lawer canmoliaeth. Canmolai ei medr gyda phob camp a gorchest lew; canmolai ei ffyddlondeb i'w dilynwyr a'i chyfeillion; canmolai garedigrwydd ei chalon. Cyfeiriai ati fel pe byddai arwres yr ardal. A dywedyd y gwir, teimlai Morys ei hun fod rhywbeth yn chwithig yn ei agwedd tuag ati. Teimlai weithiau nad oedd yn ymddwyn yn union fel y disgwylid i garwr cyfraith a rheol wneud. Ac yr oedd yn ffynhonnell o gysur nid bychan iddo fod yr hen ŵr oedd yn y gornel yn rhy drwm ei glyw i gario i glustiau Madam Wen air o'r hyn a ddywedid amdani.

Pe gwybuasai Morys mor effro oedd yr "hen ŵr " ar hyd yr amser, fel y buasai'n synnu! A phetasai modd iddo ddirnad pa deimladau oedd ynghudd yn y fynwes honno wrth wrando ar yr ymddiddan, fel y buasai'n synnu mwy! Ond cadw'i gyfrinach a wnaeth yr hen ŵr, heb amlygu dim. Ac nid amheuwyd dim.

Adwaenai'r siryf bawb o bwys yng Ngwynedd. Ac wrth sôn am gynifer, a thrafod helynt pob un yn gymdogol, buasai'n rhyfedd i enw Einir Wyn beidio â dyfod gerbron yn ei dro ymysg y lliaws. Ac felly y bu. Adwaenai'r siryf ei thad, a chofiai ei gladdu. Gŵr hynaws iawn, ond wedi torri'i galon oherwydd adfyd. Cofiai amdani hithau'n eneth landeg, lon, ond digartref. Ond nid oedd wedi ei gweled ers blynyddoedd.

Mae hi'n fyw ac iach a hoyw," meddai Morys, "a gwaed gorau'r Wyniaid yn ei gwythiennau!

Yn siwr. Mae'n dda gennyf glywed amdani." "Un o'r merched harddaf yn y byd!" meddai'r yswain yn wresog. "Mor deg â brenhines!"

Pesychodd hen ŵr y Parciau'n llesg. Ymddengys nad allai beidio, ond meistrolodd ef ei hun, a chaeodd ei lygad mewn cyntun heb dynnu sylw.

Daeth y siryf i ddeall o dipyn i beth mai gwrando yr oedd yntau ar ŵr ieuanc mewn cariad yn sôn am