Tudalen:Madam Wen.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR


LLED brin ydoedd yr hyn oedd gan draddodiad i'w ddywedyd am yrfa Madam Wen: camarweiniol iawn hefyd. Ac oni bai am ddarganfyddiad a wnaed beth amser yn ôl ni fuasai'n bosibl ysgrifennu'r penodau sy'n dilyn.

I chwilio am gartref Madam Wen rhaid myned i dde-orllewin Môn, i ardal y gellid ei galw yn Ardal y Llynnoedd. Y mae yno dri llyn o faintioli sylweddol, a'r mwyaf o'r tri yw Llyn Traffwll. Lle go anghysbell ydyw ardal y llynnoedd, ac ychydig a ŵyr y byd am ei thawelwch rhamantus? Ac os oes coel i'w roi ar yr hyn a sibrydir yn y fro o berthynas i ymweliadau lledrithiol y foneddiges â hen fangre'r harwriaeth, diau mai boddhad digymysg i'w hysbryd annibynnol hi ydyw gweled yr hen lyn a'i amgylchoedd yn dal i gadw'i ddirgeledd cyntefig yn ddihalog.

O du'r de i'r llyn, ac yn hanner ei amgylchu, ceir parciau Traffwll. Yma, flynyddoedd yn ôl, tyfai'r eithin yn goed uchel a phraff gan ffurfio coedwig dewfrig. Ac yng nghysgodion y goedwig dywyll honno y llechai ogof Madam Wen ar fin y dŵr. Lle digon salw oedd yr ogof—fel y dangosid hi pan oeddym blant—i fod yn gêlfan nac yn guddfan i neb. Nid oedd i'w weled ond darn anferth o graig, dalgref ac onglog, yn sefyll yn sgwâr megis yn y drws, ar gyfer dau wyneb llyfn y graig fwy, o'r hon yr hyrddiwyd y darn ryw dro. Rhwng hwn ag wynebau syth y graig y mae dwy fynedfa