Tudalen:Madam Wen.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'u cwrs tua'r gogledd, â'r llong dan ei llwyth o beilliad ar gyfer y gwŷr o Ffrainc oedd yn barod i ymladd dros y Brenin Iago yn Iwerddon. Yr oedd yn haws gan forwyr Môn wneud y gwaith am mai pleidwyr y Brenin Iago oeddynt hwythau yn eu calonnau. Tra buont ar y daith honno, gwnaeth Madam Wen ei rhan hithau o'r gwaith ar y lan, gan ymdaflu iddo gydag egni. Yr oedd digonedd o alwadau am lestr mor hwylus a'r Wennol, a chan fod y perygl yn fawr oherwydd natur y gwaith, yr oedd y tâl gymaint â hynny yn fwy.

Daeth y Wennol yn ôl yn ddiogel ac mewn pryd, wedi cael tywydd ffafriol a mordaith lwyddiannus. Ac erbyn hynny yr oedd ei pherchen yn barod am hynt arall ar y môr. Ei bwriad oedd myned gyda'r llong i'r porthladd Gwyddelig, ac yna dychwelyd i'w hardal ei hun ar y ffordd yn ôl. Dyna oedd y trefniad. Ond nid felly y mynnai ffawd. Nid oedd dim mor dawel â hynny ar ei chyfer erbyn gweld.

Gyferbyn â cheg yr Hafren yr oeddynt, a phymtheng milltir o Abergwaun, pan welsant long ymhellach i fyny yng ngenau'r afon. Llygad craff Huw Bifan oedd y cyntaf i ganfod perygl: Llong Abel ydyw honna, fechgyn, ac y mae a'i lygaid arnom.'

Ac felly'r oedd. Gwelodd Abel Owen slŵp o'r fath a redai beunydd y dyddiau hynny rhwng porthladdoedd Ffrainc a thraeth Iwerddon, a phenderfynodd ei hymlid. Yr oedd eisoes wedi dal dwy gyffelyb iddi, ac wedi cael swm mwy na'i gwerth am ryddhau un oherwydd pwysigrwydd y teithwyr a gludai. Am y llall, gwerthodd hi yn ddidrafferth, long a llwyth, yn Llychlyn.

Pan welwyd y Wennol, codwyd hwyliau ar y Certain Death a dechreuodd nesáu. Wrth weled hynny, newidiodd Huw Bifan ei gwrs, ysgwariwyd hwyliau, ac ymaith â hwy o flaen y gwynt am draethau Corc. Rhedai'r Wennol yn dda, ond enillai'r llall. "Mae ganddynt fwy o liain na ni, fechgyn," meddai Huw Bifan wrth weld ei long yn colli tir. "Mae am ein dal, mi welaf. Rhaid i mi fynd a dweud wrth Madam Wen."