ni fu yntau ronyn mwy llwyddiannus na'r llall. Aeth yr ail ergyd i'r môr heb gyffwrdd â'r llong las.
Ond yr adeg honno, er bodlonrwydd i Huw Bifan, barnodd Madam Wen yn ddoeth ildio. Gostyngwyd hwyl, a daeth y Certain Death i ymyl y Wennol.
Anfonwch y capten i'r bwrdd yma ar unwaith!" oedd gorchymyn Abel Owen, "a pharatowch chwithau bob jac ohonoch i fynd i waelod y môr."
Ufuddhaodd Huw Bifan gyda golwg ar ran gyntaf y gorchymyn, ac nid oedd heb ofni na byddai yn angenrheidiol talu sylw i'r rhan ddiwethaf hefyd. Pan oedd yn ei ollwng ei hun i lawr i'r cwch aeth Madam Wen at ei ochr a sibrydodd air yn ei glust na chlywodd y morwyr mohono.
Ni cheid ar yr un o'r moroedd neb cyfrwysach na Huw Bifan o Fau Cymyran, ac yr oedd yn ddiarhebol o bwyllog. Pan ddaeth ar fwrdd llestr y môr-leidr, ac i olwg y capten, ffugiodd syndod didwyll. "Ai Abel Owen sydd yma? meddai yn Gymraeg.
A llw Cymraeg dilediaith oedd llw Abel yn ei dro. Gofynnodd pwy oedd Huw. "Ac onibai mai Cymro wyt, buaswn yn dy saethu heb ragor o eiriau. Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti yn dy gafn mochyn?"
"Nid arnaf fi yr oedd y bai," atebodd llywydd y Wennol yn addfwyn.
"Nid arnat ti, a thithau'n gapten. Ti ydyw'r capten, onid e?"
"Y fi sy'n esgus o hynny," meddai Huw, mewn hanner grwgnach. "Ond un arall sy'n llywyddu ar y fordaith yma."
"O'r holl ynfydrwydd. . . ." dechreuodd Abel. "Ond eglura dy feddwl, mae'r amser yn fyr," meddai.
Eglurodd Huw yn ei ffordd ei hun. A'r diwedd fu i'r môr-leidr newid ei fwriad. Anfonodd Huw Bifan yn ôl i'w long gyda gorchymyn ar i Madam Wen, gan mai hi a lywyddai, ddyfod ar fwrdd y Certain Death rhag blaen i ateb am y drafferth yr oedd hi wedi ei achosi iddo ef mor ddi-alw-amdani. A rhywbeth