Tudalen:Madam Wen.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dod a hwy yma a'u crogi," meddai hwnnw, gan lwyr gredu mai dyna oedd ei dymuniad hithau hefyd.

"Ai felly?" meddai Madam Wen wrth ei hun, a rhoddodd ei phen ar waith i ddyfeisio ffordd i ddrysu cynllwynion Abel Owen, ac i achub bywydau morwyr Bau Cymyran. Ond awr gyfyng ydoedd.

Nid oedd ganddi ond amser byr i gynllunio. Yr oedd yn rhaid gwneud rhywbeth ar unwaith. Gwelai arwyddion colli amynedd ar lawer wyneb brwnt o'i chylch. Gwelai bod y môr-ladron yn blino ar yr oediad, a heb eto anghofio'r amser a wastraffwyd yn ymlid y Wennol ar draws y sianel. Ie, ychydig iawn o amser i ystyried oedd ganddi. Ac yr oedd yn bwysig dangos wyneb hyd yn oed pan oedd wrthi'n brysiog gynllunio. Ond medrai Madam Wen ddangos wyneb.

'Does ryfedd i'w chalon guro'n gyflym yn y cyfwng hwnnw. Os methai'r cynllun: pe digwyddai rhyw anffawd cyn ei gwblhau: os oedd hi yn digwydd bod yn camgyfrif neu gamfarnu'r dylanwadau o'i thu ac i'w herbyn yna o fewn hanner awr y fan bellaf byddai criw'r Wennol wedi eu llofruddio bob un, a hithau ei hun at drugaredd y môr-ladron, yn ddiamddiffyn yn nwylo rhai o'r dyhirod mwyaf diegwyddor yn y byd. Gwibiai ystyriaethau fel hyn trwy ei meddwl, gan roddi min ar hwnnw. Dyfeisiodd yn eofn a beiddgar. Rhwng gwên a gwên pwysodd y môr-ladron yng nghlorian gain ei barn gywrain; mesurodd led a dyfnder eu tueddiadau a'u gwendidau megis. Pan welodd ei chyfle, heb neb arall o fewn clyw, dywedodd yn gyfrinachol wrth Abel, "Y mae rhywbeth o werth yng nghaban y Wennol yr hoffwn i chwi ei gael heb yn wybod i neb."

Llonnodd llygaid y capten wrth glywed hynny. Boddheid ei fâr. Ac mor hawdd oedd gwenieithio i'w falchter!. Ac oni wyddai hithau hynny! Nid yn unig gwelai Abel obaith rhyw ennill arbennig iddo'i