Tudalen:Madam Wen.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae mwy o helynt efo'r mymryn llong yna nag ydyw hi o werth," oedd grwgnach un arall, un na fuasai yn cymryd y byd a dywedyd hynny petasai Abel ar y bwrdd. Ond yr oedd Abel erbyn hyn yn y ddalfa, ac nid ychydig o'i gydforwyr yn gobeithio mai mewn dalfa y parhai.

"Ofnaf na fedrwn ni mo'i goddiweddyd," meddai James, a chafodd y sylw dderbyniad ffafriol.

"Beth am y capten, ynte?" gofynnai'r mêt, fel pe'n rhoddi her i fradwriaeth. Ond yr oedd yno ugain o ddyhirod yn barod erbyn hyn i chwerthin a choegi wrth sôn am y capten a'i dynged.

"Mae ganddo'r llong—a'r ferch!" meddai James, ac yn y cellwair hwnnw penderfynwyd a seliwyd tynged Abel.

Bu chwarter awr o chwyldroad a pherygl ar fwrdd y Certain Death cyn darfod trefnu pethau. Ond yn y diwedd dewiswyd James How yn gapten, a rhoddwyd mêt Abel Owen mewn gefynnau, a newidiwyd cwrs yn sydyn am y de a Môr Iwerydd, gan adael i Abel ymdaro drosto'i hun orau y gallai.

Felly'n union yr oedd Madam Wen wedi tybio y buasai'r dyhirod yn gwneud, ac ar sail y dybiaeth honno yr oedd hi wedi gweithredu mewn rhyfyg nid bychan. 'Doedd ryfedd i fanllef o lawenydd esgyn oddi ar fwrdd y Wennol pan welwyd y gelyn yn newid cwrs; banllef o lawenydd ac ar yr un pryd o deyrnged i Madam Wen. Clywodd Abel y sŵn o'i gell islaw, a deallodd yntau mai arwydd ydoedd o oruchafiaeth i wŷr y Wennol. Aeth y Certain Death o'r golwg yn y pellter cyn newid o'r Wennol ei chyfeiriad, a'r broblem nesaf oedd pa beth i'w wneud â'r carcharor.

"Rhoi rhyw deirawr o seibiant iddo gael oeri tipyn ar ei waed," meddai Huw Bifan yn glaear, a dyna fu.

Pan ddaeth yr amser cyfaddas ymarfogodd Huw Bifan a dau o'i forwyr, ac aethant i ymofyn Abel.