"Beth y mae hi am ei wneud?"
"Sôn am grogi oedd yma ryw deirawr yn ôl," meddai Huw yn llariaidd. Gwingodd Abel o dan yr edliwiaeth. Ychydig o gysur oedd iddo hefyd yn chwerthiniad y ddau forwr.
"Mi wna i fargian efo hi," meddai Abel, gyda chwrs o'i rwysg blaenorol.
Torrodd Huw Bifan ar ei draws yn swta. "Y fargian orau wnei di bellach, Abel, fydd bargian efo dy grewr. Paid a cholli amser mewn ffoledd. Dyna 'nghyngor i iti."
Ond nid oedd Abel am ymostwng felly. "Dos i ofyn iddi a gaf fi air gyda hi."
"Abel Owen, deall fi, dyfod yma ddarfu imi i fynd a'r petheuach yma oddiarnat. Ac yr wyf wedi bod yn hwy ar fy neges nag sydd weddus. Cymer di fy ngair i mai nid un i chwarae â hi ydyw perchen y cafn mochyn."
Ar hynny, yn anewyllysgar, rhoddodd Abel yr arfau o'i law, bâr a phâr. Rhyddhaodd y cleddyf hefyd, a dododd hwnnw i lawr. Cymerodd y morwyr feddiant ohonynt ar unwaith.
"Erys gorchwyl bach arall cyn i ni ddweud pnawn da," meddai Huw yn frawdol. "Cyfeirio yr ydwyf at ryw flwch bach o bren a rhyw fân deganau sydd ynddo. Mi wyddost amdanynt, mi wn.".
Gwridodd Abel o ddigllonedd. Brochodd o dan y dirmyg. Datododd ei wisg yn frysiog, a throsglwyddodd i Huw yr aur a'r gemau. Cymerodd Huw'r blwch pren, bwriodd y trysor iddo'n ddi-daro, a thrawodd y blwch o dan ei gesail fel petai ddernyn diwerth o bren. "Dyna ni'n weddol wastad, am wn i—ac eithrio'r crogi oedd i fod." Daeth cochni i ddwyrudd Huw am y tro cyntaf, a chwerwder i'r llais fyddai mor fwyn fel arfer;—"Ond cofia di, Abel Owen, petasai hi ar law'r bechgyn yma a minnau i setlo efo un o'th fath di, mi fuasem yn dy dynnu'n gareiau, yr ysgerbwd aflan i ti!"