Tudalen:Madam Wen.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amser i ystyried mor amddifad ydoedd yn y byd. Diau mai'r pryd hynny y dywedai ei chyfrinion wrth y dalennau.

Wedi gweled am yr ysgarmes a fu rhyngddi ag Abel Owen, y môr-leidr, gwnaed ymchwiliad pellach mewn mannau eraill, a chaed bod hanes ei yrfa ystormus ef ar gael a chadw. Diweddodd yr yrfa annheilwng honno o dan fwyall y dienyddiad yn Execution Dock yn Llundain yn y flwyddyn 1711.

Llawer o gloddio a fu yn y parciau o dro i dro mewn ymchwil am drysor cuddiedig Wil Llanfihangel. Odid na fu pob cenhedlaeth o blant y cylch agosaf, byth er hynny, yn cloddio yn eu tro wedi clywed yr hanes. Ond nid oes sôn i neb erioed ddyfod ar draws y llestr pridd.

Y mae yn yr hanes sy'n dilyn lawer o fanylion a gaed o dro i dro gan deuluoedd a'u cafodd drwy draddodiad eu hynafiaid. Ond ni wyddid yn y byd i ba gyfnod y perthynai'r gwahanol ystorïau nes i ddydd—lyfr Madam Wen ddyfod fel dolen gydiol— trwy gyfrwng yr enwau—i wneuthur cyfanwaith ohonynt.