Tudalen:Madam Wen.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lawer yn fflachio golau fel cynifer o lampau cain; emraldau heirddwyrddion liaws; rhuddemau cochach na'r gwin; meini saffir yn disgleirio fel yr haul, a pherlau claerwynion lawer.

"A welwch chwi hwn? meddai wrthi, gan ddal yn ei law ddiamwnt mawr. "Hwn oedd llygad de un o'r duwiau mwyaf diolwg a addolwyd erioed gan greadur o bagan!"

"A dyma bâr o lygaid fflamgoch rhyw hen eilun arall a gawsom mewn congl dywyll yno.' Neilltuodd ddau ruddem a fuasai'n gwerthu, am bris can erw o dir da ym Môn.

"Er mwyn yr hen amser gynt," meddai, mi hoffwn yn fawr gael rhoddi hwn i chwi os byddwch mor hynaws a'i dderbyn ar fy llaw." Un o'r rhai mwyaf o'r gemau oedd hwnnw, diamwnt a'i belydr fel cyfundrefn gyfan o heuliau. Diolchodd hithau iddo.

Yn y llong yr oedd mwy o gyfoeth ar ffurfiau eraill, a heb fod mor hawdd eu diogelu mewn cylch bychan; llestri o aur ac o arian, cyrn ifori, sidanau a thrysorau eraill. Cael ei chymorth hi i ddiogelu'r rhain oedd amcan ei ymweliad â hi. Trefnwyd pa fodd a pha bryd i gyrchu'r trysor, a pha le i'w ddiogelu wedi ei gael. Llechai'r llong rhag gwynt y gorllewin ymhell i fyny'r culfor, ac ni wyddai neb i bwy y perthynai.

Gall mai'r ffaith mai nid ei heiddo hi ei hun oedd y nwyddau a fyddai mewn perygl a wnâi iddi deimlo'n anesmwyth. Neu gall bod rhyw rith o ofn arall wedi ei meddiannu hithau, fel yr oedd amheuaeth o un neu ddau o'r fintai wedi gafael yn Siôn Ifan. Nid oedd pethau yn union fel yr arferent fod. Braidd nad oedd hi'n ddig pan sylweddolai mor bryderus y teimlai. Dywedodd wrthi'i hun nad arferai fod felly. Daeth un munud arni pan fuasai'n dda ganddi gael dywedyd na theimlai'n dawel i roddi lloches i'r fath olud yn y fath le ac ymhlith y fath bobl. Ond ni ddywedodd hynny.