"Mi gymraf fy llw i mi weled rhyw lygedyn o olau yn y cwr draw," eglurodd yr hen ŵr, gan ddal i syllu'n graff. "Fuasem ni dro bach yn mynd yno. Beth ddyliech chwi? Af ar fy llw mai golau a welais!"
Cychwynnodd y ddau fraich ym mraich ar draws. y draethell wleb, heb fawr o ddim i gyfeirio'u ffordd. A'r tywod yn fyw o dan eu traed. Yn y pellter clywent sŵn cwynfan y môr.
Fel y dynesent at lan y llif, ei llygad cyflym hi oedd y cyntaf i ganfod rhyw bentwr tywyll yn gorwedd ar y tywod. Gafaelodd yn dynnach ym mraich Siôn Ifan. Beth allai fod, a mân donnau olaf ac eiddilaf y llanw yn chwarae o'i gylch fel pe'n hwyrfrydig i'w adael? Pan syrthiodd llygad llai craff yr hen ŵr arno, cyflymodd ei gerddediad nes dyfod i'r fan. Yr oedd ef wedi gweled llawer golygfa debyg, ond amdani hi, safodd ryw ddwylath yn ôl, gan grynu fel deilen, a rhyw ofn nad allai ei draethu yn ei mynwes.
"Mae'n ddyn go fawr," sibrydodd Siôn Ifan, yn fwy wrtho'i hun nag wrthi hi. Nid oedd darganfod corff ar y traeth yn beth dieithr i breswylwyr y glannau, ac er y dangosent y gwylder tawel a ddisgwylir pan fyddis ym mhresenoldeb y marw, eto yr oedd gwahaniaeth; corff ar y traeth ydoedd, ac nid gŵr marw yn ei dŷ.
"Mewn gwisg dda hefyd!" meddai wedyn. Nid oedd wedi taro i'w feddwl o gwbl y gallai'r truan fod yn neb a adwaenai ef. Estron o ryw long neu'i gilydd. Ni cheid cyrff gwŷr Llanfihangel-yn-Nhowyn ar y tywod ar y traeth.
Ond amdani hi, ni allai ers meityn ffurfio'r geiriau a fuasai'n adrodd ei hofn.
Ac fel y syllent, daeth paladr o oleuni gan ddisgyn ar draws y llif, fel llwybr o arian yn dawnsio ar wyneb y dŵr, ac yn dynesu. Edrychodd Siôn Ifan i fyny mewn dychryn, ond cafodd dawelwch meddwl ar unwaith wrth weld ymylon carpiog cwmwl du yn llachar o belydr claerwynion y lloer ar ymddangos.