Tudalen:Madam Wen.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un fath. Nid ydyw'n ddim ganddo adael i'r cwrw redeg ar ôl bod yn tynnu diod i gwsmer.'

Yr oedd grym yn nadl gwastraff y cwrw, pan gofid mai am Siôn Ifan yr oedd y siarad. Yr oedd hynny mor groes i'w natur. Lled argyhoeddwyd hyd yn oed Nanni wrth glywed hynny. "Beth fydd o 'n ei ddweud wrth siarad ag ef ei hun?

"Yn wir ni fydda i ddim yn dewis dangos iddo y byddaf yn ei glywed o. Mi glywais rywbeth am Wil ddwywaith neu dair, ond ni wn i ddim beth oedd."

Felly," meddai Nanni, a'i phen yn gam. "Pa ddrwg newydd y mae'r gwalch hwnnw wedi ei wneud, os gwn i?"

"Ni wn i ar y ddaear. Neithiwr yr oedd Siôn yn ddrwg iawn. Cerddai yn ôl ac ymlaen yn ddiamcan, yn mwmian mwy nag erioed. Ar ryw sgwrs rhyngddo ag o 'i hun mi clywais o 'n dweud fel hyn, A Robin hefyd! Taid annwyl!' A golwg digri iawn arno fo."

"Robin y Pandy oedd hwnnw, mae'n siwr," meddai Nanni. "Mae'n rhaid bod Wil a Robin wedi bod mewn rhyw ddrwg gwaeth na'i gilydd, a hynny'n poeni Siôn Ifan."

Wedi dyfod i'r casgliad hwnnw, gwnaeth Nanni ei gorau i geisio cysuro'r hen wraig, gan ddal allan mai dim ond rhyw ffrwgwd rhwng dynion oedd y mater, ac yr âi hynny heibio fel popeth arall, ac y deuai Siôn Ifan ato'i hun cyn hir. Ond ar yr un pryd teimlai fwy o chwilfrydedd nag a ddangosai, a phenderfynodd na chadwai'n ddieithr o Dafarn y Cwch, rhag ofn bod rhyw ddrwg.

Collwyd John Ffowc y teithiwr o'i long, ac ni wyddai ei longwyr i ba le i fyned i chwilio amdano, Aethai i'r lan ar ei ben ei hun un noson, a byth er hynny ni welsant mohono. Am ddeuddydd neu dri ni ddaeth i'w meddwl fod hynny'n arwyddo unrhyw ddrwg, canys yr oedd wedi mynd a dyfod yn yr un modd amryw weithiau cyn hynny, heb egluro i neb i ba le