Tudalen:Madam Wen.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oni wyddai hi'n bur dda ymha le 'roedd Llanychulched? A hithau'n meddwl am yr ardaloedd hynny ddydd a nos! Gwnaed ef a fynno, yr oedd hi'n gymaint mwy chwim ei chrebwyll, a pharotach ei hymadrodd, fel nad oedd Morys fawr doethach yn y diwedd, heblaw ei fod yn deall yn dywyll ei bod hi, trwy ryw gyfrwng neu ei gilydd, wedi llwyddo i wneud rhyddhad y dyn bach yn haws na phetasai heb gyfaill i ofalu amdano. Ac ar hyn bu raid bodloni.

Ond ar un pwnc safai Morys, yn ei dro, yn ddiysgog fel y graig. Wrth drafod y pwnc hwnnw, ef oedd y cryf, a'i gariadferch ffraeth mewn dryswch. Wrth ddadlau hawliau cariad, oedd wedi disgwyl yn hir, rhyddhawyd ei leferydd amharod yntau. "Rhaid i mi gael eich addewid bendant heno, Einir, y cawn briodi o hyn i ben y mis!

Mis! Cyn gynted â hynny! Mae mis mor fyr, Morys!"

"I mi mae mis fel mil o flynyddoedd heboch! Allan o'ch golwg, y mae pob dydd, pob awr, yn faich arnaf. Yr wyf yn eich caru'n fwy nag y medr daear ei ddirnad, na nef ei wybod, ac ni fynnaf aros yn hwy heb gael eich calon, a'ch cariad, a'ch sylw i mi fy hun, yn gyfangwbl."

"Yn wir, Morys, nid ydych yn rhyw hawdd iawn eich bodloni."

"Einir! pan oedd rhyw rith o reswm dros oedi, gwyddoch i mi fodloni heb unwaith rwgnach; cerais a disgwyliais, er bod briw i mi ymhob ymwahaniad, a loes ymhob ymadawiad. Ymdawelais er mwyn yr adduned a wnaethoch, ac o barch i'ch teimladau ac i goffadwriaeth eich tad. Ond erbyn hyn nid oes dim ar y ffordd ond mympwy, os ydych yn wir yn fy ngharu!"

Paham y mynnai ei dagrau lifo wrth ddywedyd y carai hi ef? "Yr wyf yn eich caru! O! gymaint!" Wrth weld ei dagrau aeth yntau i feddwl ei fod yn ymddwyn yn llym. "Pa raid wrth eiriau celyd