Yr oedd Lewys Ddu yn farch ymysg mil am ufudd-dod. Gwyddai am rwymedigaeth i barchu dymuniadau ei berchen i'r eithaf. Yr oedd ganddo feistr teg a charedig, gŵr na byddai un amser yn trethu amynedd hyd yn oed march yn ormodol. Treuliodd Lewys ddwyawr difyr yn pori yn ymyl y llyn. Yr oedd yno damaid blasus, a a swyn newydd-deb ynddo. Ond wrth weled nos yn dynesu, a'i feistr heb ddychwelyd, aeth y ceffyl du'n anesmwyth, a'r borfa'n ddiflas. Ni chaniatâi ei foesau da iddo weryru, er bod awydd gwneud hynny arno.
Wedi disgwyl yn hir iawn anturiodd gerdded i dir oedd uwch, er mwyn gweled y wlad. Ac wedi torri'r garw felly, nid oedd waeth mynd rhagddo bellach. I lawr y bryn, â'i ffroen wrth y llawr, cyflymodd ei gamau. Trwy ryw synnwyr rhyfeddol daeth o hyd i'r llwybr a deithiodd Morys, ac mewn hyder llawn. bod maddeuant i'w gael os oedd wedi troseddu, daeth i'r llecyn wrth sawdl y graig ar fin y gors lle y gorweddai ei arwr.
Ond derbyniad oeraidd a gafodd o edrych arni o safbwynt march o gymeriad gloyw. Aeth gam yn nes rhag digwydd na wyddai ei feistr ei fod yno. Ond ni chafodd na chyfarch cynnes nac ychwaith air addfwyn o gerydd, dim ond distawrwydd fel canol y nos. Methai'n lân a deall hynny. Safodd yno'n hir iawn ac yn hynod amyneddgar, ond ni ddeuai golau o unlle ar y dirgelwch. Hyfdra a fuasai llyfu wyneb ei feistr, hwyrach, ond yr oedd blys gwneud hynny arno. Aeth mor bell a ffroeni yn ofalus ac yn hir o gylch ei ben. Ond er hynny ni chafodd eglurhad yn y byd ar ymddygiad anghyffredin ei berchen. Nid oedd dim i'w wneud ond arfer mwy o amynedd. Ac am hynny penododd Lewys ef ei hun yn wyliedydd mud uwchben yr un a garai yn fwy na neb arall.